Monday, March 24, 2008

mansfield park

Mi nes i a'r plant iau wylio Mansfield Park dros y gwyliau ma. Cynhyrchwyd y ffilm gan BBC chwarter canrif yn ôl. Mae'r actio a'r gwisgoedd yn ardderchog. Mi naethon ni fwynhau'n fawr iawn er gwaetha'r gwaith camera truenus. Mae cymeriadau Jane Austen yn eitha difyr.

3 comments:

asuka said...

rwy'n dwlu ar jane austen ac mae "mansfield park" yn un o fy hoff lyfrau i ganddi hi ("emma" yw fy ffefryn!), ond sa' i 'di gweld y ffilm 'ma.

Emma Reese said...

Da iawn asuka! A dweud y gwir rôn i mor wirioni arni mod i wedi ymaelodi Cymdeithasau JA yn UDA ac yn Lloegr blynyddoedd yn ôl. Persuasion ydy fy ffefryn. Dw i wedi gweld yr holl ffilmiau henach.

Dw i ddim wedi darllen ei nofelau yn ddiweddar ond dw i'n dal i feddwl mai un o'r awduron gorau ydy Austen.

asuka said...

mae'n debyg bod modd dosbarthu personoliaethau ar ôl hoff lyfrau jane austen pobl!