Sunday, March 2, 2008

partner siarad

Wrth i mi weld bod gan fy merch sy'n 14 oed ddawn dysgu ieithoedd, mi nes i roi gwers Gymraeg fer iddi, rywbeth syml a defnyddiol fel, "Dw i'n dysgu......." "Dw i'n hoffi ......." Mi naeth hi'n dda iawn.

Fy mwriad hunanol ydy magu partner i mi gael siarad Cymraeg â hi. Mae hi'n awyddus dysgu pethau newydd ond dw i ddim yn siwr bydd y cynllun yn gweithio achos bod hi'n brysur iawn yn dysgu Ffrangeg a Sbaeneg ac yn ymarfer piano, ac yn sgwenni storiau heb sôn am orfod gwneud cymaint o waith cartre bob dydd.

Dw i'n meddwl arna i mai llwyddiant yn dibynnu. Bydd rhaid i mi ddal ati tipyn bob dydd. Gawn ni weld!

3 comments:

Linda said...

Ella rhyw ddiwrnod fydd 'na dair ohonom yn cael sgwrs ar skype !

Emma Reese said...

Mi fasa hynny'n gampus!

asuka said...

swnio fel cynllun gwych.
nawr 'te, tybed allwn i ddysgu cymraeg i 'nghath i...?