Sunday, March 16, 2008

sylw amheus

Mi ges i sylw ar fy mhost diwetha oddi wrth rywun geisiodd rhoi firws i mi, dw i'n meddwl. Mi nes i sylweddoli hyn ar ôl clicio'r ddolen yn y sylw. Yn ffodus, es i ddim ymhellach ac mae'r cyfrifiadur yn ddiogel. Mi ddylwn i fod wedi bod yn amheus achos fod o gan ddieithryn yn Saesneg. Ond dôn i erioed wedi derbyn unrhyw sylw amheus neu gas ers i mi ddechrau blogio. Felly dôn i ddim yn wyliadwrus. Mi nes i ddileu'r sylw am byth.

2 comments:

asuka said...

cefais innau un o'r rheiny'n ddiweddar - roedd e'n hollol annisgwyl. rwy 'di troi 'mlaen y teclyn "adnabod gair" 'na, a gobeithio bydd hynny 'di datrys y broblem. cawn ni weld.

Corndolly said...

Welais i'r sylw hefyd, ac hyd yn oed yr oeddwn i'n amheus, ceisiais i'w agor, a roeddet ti'n gywir, roedd 'na firws yno, ond diolch byth am y rhaglen amddiffyniad. Siarada i thi heno.