Monday, May 5, 2008

babis eto!


Mi gaeth un o'r moch cwta dri babi y bore ma. Roedden nhw'n wlyb ar y pryd ond maen nhw'n sych bellach ac yn iach ac annwyl iawn. Mae fy merch hyn sy'n biau nhw yn gwirioni arnyn nhw. Roedd hi'n bwriadu rhoi nhw i ffwrdd mewn wythnosau ond dydy hi ddim yn edrych yn rhy siwr ar ôl gweld pa mor ddel ydyn nhw! Gobeithio medrith hi ffeindio cartrefi da iddyn nhw. Mae pedwar yn ddigon!

2 comments:

asuka said...

annwyl iawn!
ond well imi beidio â mynd ag un - rwy'n siwr byddai'n cath ni'n ei wneud e'n nerfus iawn wrth syllu arno drwy'r gwydr trwy'r amser.

Emma Reese said...

Mae 'na ddyn sy isio dau (ac sgynno fo ddim cathod!) Dw i ddim yn siwr beth neith fy merch efo'r trydydd.