Thursday, May 8, 2008

gwastraff bwyd

Mae bwyd gwerth miloedd o bunoedd yn cael ei wastraffu bob blwyddyn ym Mhrydain ar ôl y newyddion diweddara. Mae hyn yn wir yn unryw wlad orllewinol.

Yr hyn fy aflonyddu i ydy gwastraff bwyd gan unigolion yn hytrach na thai bwyta a siopau. Mi ges i fy magu gan fy mam sy wedi mynd trwy'r Ail Rhyfel Byd, ac fedrith hi ddim diodde unrhyw wastraff. Dw i wedi pasio'r arfer i fy mhlant. Felly maen nhw'n cael eu aflonyddu hefyd wrth weld plant eraill daflu bwyd da i'r bin yn yr ysgol. Yn ein ty ni, yr unig bwyd sy'n cael ei daflu ydy un drwg. Hyd yn oed pan nawn ni fwyta allan, mi fydda i'n gwneud yn siwr bod pob disgl yn wag cyn gadael.

8 comments:

asuka said...

tybed fydd prisiau uwch yn y dyfodol yn effeithio ar arferion unigolion yn y byd datblygedig? byddwn i'n disgwyl iddyn nhw gael effaith ar fusnesau o leia'.

Emma Reese said...

Gobeithio bydd. Mae'n ddychrynllyd gweld prisiau popeth yn codi bron yn wythnosol.

Emma Reese said...

Gyda llaw, sut mae dy fywyd ym Mangor, Asuka? Dan ni'n mynd i glywed am dy hanes di?

asuka said...

popeth yn iawn, diolch. es i i ddrama gymraeg yma yn ddiweddar, ac rwy'n bwriadu mynd i ffair yn y bala fory - bydda' i'n sicr o flogio arnyn nhw!

Emma Reese said...

Siwan oedd y ddrama nest ti fynd, tybed?

asuka said...

naddo! rown i'n gobeithio gweld "siwan" am 'mod i 'di ei darllen hi (ac felly byddwn i'n sicr o'i deall!), ond mae'n ymddangos ifi golli "siwan" yn y theatr yma, gwaetha'r modd.

Emma Reese said...

Dw i wedi ddarllen, neu geisio darllen Siwan droeon hefyd. Mae gen i ddiddordeb mawr sut bydden nhw'n cyflwyno'r ddrama radio ar y llwyfan.

Gwybedyn said...

"Ffair y Bala"! Un o ganeuon gorau Bob Delyn a'r Ebillion (ar yr albwm Gedon!! Gwych o gân; gobeithio iti'i hymian hi pan o't ti yno, Asuka!

Wrth sôn am wastraff, un o'm casbethau yw topiau plastig ar baneidiau o goffi. Beth ar y ddaear sy'n mynd ymlaen? Rhaid bod cannoedd o filoedd o'r bali pethau twp 'ma'n cael eu gwastraffu bob dydd (mae'r cwpanau plastig yn wael, ond mae'r topiau yn hurt!).

Tasai'r coffi sy'n cael ei sugno drwyddyn nhw o unrhyw safon, falle byddai'r sefyllfa'n fwy derbyniol, ond na! - mae'r amgylchfyd yn cael ei lygru a safon bwyd yn plymio ar yr un pryd.