Thursday, May 15, 2008

panig!

Mi neith teulu ffianse fy merch yn dwad ddydd Sadwrn i fynd i gawod briodas iddi hi, y rhieni ac un o'r brodyr a'i wraig. Dôn i ddim yn disgwyl achos bod nhw'n byw yn bell. Ond dwad maen nhw.

Dw i wedi bod yn tacluso a glanhau'r wythnos ma. Rôn i'n sgwrio drws y garej a'r canllawiau heddiw. Mi gaethon nhw eu troi'n wyrdd gan y paill. Mae 'na lanast ofnadwy naeth y plant ym mhob man. Well iddyn nhw dacluso! Ac well i fy mab dorri'r lawnt.

Fydd dim rhaid i mi baratoi pryd o fwyd yn ffodus. Mi nawn ni fwyta allan. Ond dw i'n siwr na i eu gwahodd nhw'n ty ni.

3 comments:

asuka said...

pob lwc iti gyda'r prosiect glanhau - a gobeithio y gwneiff pawb arall yn y tŷ ei ran!

Emma Reese said...

Diolch. Mae'r ardd flaen a'r "drive way" yn edrych yn ddigon da bellach. Mi nawn ni dacluso'r stafelloedd wedyn.

Linda said...

Gobeithio fod pob dim wedi mynd yn dda i ti emma :)
Cawn sgwrs dydd Llun !