Sunday, May 11, 2008

pen wythnos


Mae un o'r myfyrwragedd Japaneaidd yn aros efo ni am ddwy noson achos bod nhw i gyd i fod i adael llety y brifysgol neithiwr ond mae'r rhan fwya ohonyn nhw'n hedfan i Japan ddydd Llun. Felly roedd rhaid iddyn nhw cael hyd i lety dros dro.

Ac mi aeth dau fyfyriwr i dreilio p'nawn Sul efo ni. Mi gaethon ni bitsa a chawl Japaneaidd (past ffa soya, tohu ayyb.) Maen nhw wrthi'n chwarae Play Station ar hyn o bryd.

Mi fydd y dre'n eitha tawel am dri mis wedi i'r myfyrwyr fynd ar wyliau.

2 comments:

Linda said...

Dwi'n gweld Draig Goch....:)

Emma Reese said...

Mae gen i dair Draig Goch ges i'n anrhegion y dweud y gwir, un yn y lolfa a'r lleill yn fy stafell wely. : )