Monday, July 21, 2008

cwrs cymraeg yn iowa, diwrnod 1 (13/7)




Ar ôl wythnos lawn o ddysgu Cymraeg yn y cwrs yn Indianola Iowa, mi ddes i'n ôl yn ddiogel y bore ma (12:30.) Hoffwn i adrodd y hanes tipyn am y tro.

Cyrhaeddes i Simpson College yn Indianola yn y p'nawn. Mae'r coleg yn y dre fach daclus ac mae'r coleg ei hun mor bert efo blodau a coed mawr ym mhob man.  Rôn i'n falch o weld stafell sengl glyd wedi'i threfnu drosta i yn y neuadd.

Mi ges i swper efo'r dysgwyr eraill yn y ffreutur. Yna roedd 'na gyfarfod cynta i gyfarch ein gilydd. Wrth gwrs roedd rhaid ei orffen gan ganu Hen Wlad.

9 comments:

asuka said...

heb os gwelodd y ddesg 'na lot o waith cartref dros yr wythnos. ^^

Emma Reese said...

Naddo a dweud y gwir. Doedd 'na ddim gwaith cartre. Dim ond adolygu a sgwennu dyddiadur wrth y ddesg ôn i.

Linda said...

Helo !
Falch dy fod wedi cyrraedd adref yn saff, ac yn edrych ymlaen i ddarllen hanes y cwrs.
Cawn sgwrs cyn bo hir...

Corndolly said...

Falch bod gen ti amser diddorol a wedi dod yn ol yn ddiogel. Edrych ymlaen at yfory. Byddwn ni (fi a Zoe) ar Skype am 6 (yma) /12 (yna)

Rhys Wynne said...

Dw i'n tanysgrifdio i ffrwd (feed) sawl gwefan, sy'n dweud wrthyf pa wefannau dw i'n ddarllen sydd weid ei diweddaru. Fel mae'n digwydd yr un y darllenais cyn hwn oedd grŵ dysgwyr Cymraeg ar LiveJounal, a dyma'r cofnod diweddara arno, sydd hefyd yn crybwyll y cwrs yn Indiana. Fyddi di'n mynd i Alberta flwyddyn nesaf?

Peggi Rodgers said...

Pa lefel oeddet ti'n gwneud, Emma?

Peggi Rodgers said...

Wps! Dw i'n moyn dweud: Bore 'ma mae un person yn postio ar ForumWales bod ei dosbarth hi'n fach - dim ond dwy bobol. Roedd hi yn lefel un.

Emma Reese said...

Diolch i chi i gyd wnaeth adael sylwadau.

Mae'n wych gweld bod dy liniadur newydd yn gweitho'n dda, Linda.

Gobeithio cei di amser da efo Zoe, Corndolly.

Rhys, Peggi, dw i'n nabod yr un sgwenodd y cofnod. Rôn i ar lefel 7. Dw i ddim yn meddwl na i fynd i Alberta.

Sarah Stevenson said...

Roedd hi'n wych dod i nabod ti eleni! Dw i'n falch dy fod ti wedi dod i'r Cwrs.