Friday, October 28, 2011

carpedi glân

Dw i ddim yn hoffi carpedi wal i'r llall (wall to wall?) Er nad ydyn ni'n gwisgo esgidiau yn y tŷ, mae'n amhosib eu cadw nhw'n lân heb eu hwfro'n aml. (Dydw i ddim, cofiwch!) Rhaid cael eu golchi'n broffesiynol o bryd i'w gilydd hefyd. (Mae'n hen bryd i ni gael un!)

Cafodd fy merch briod olchi ei charpedi brwnt ddoe o'r diwedd a gyrru llun ohoni hi'n gorwedd ar lawr mewn gorfoledd!

Byddwn i'n hoffi cael llawr caled.

2 comments:

Sarah Stevenson said...

Mae 'da ni garpedi dim ond yn y stafell fyw a'r stafelloedd gwely, a dyna ddigon! Dw i'n cytuno, mae hi'n dasg diflas eu chadw nhw'n lan. Dw i ddim yn hoff iawn o hwfro chwaith.

Emma Reese said...

Mi fasa llechi Cymreig yn ddelfrydol!