Dw i'n hoff iawn o nofelau hanesyddol. Dw i newydd ddechrau ar The Lion of St. Mark a sgrifennwyd ym 1889. Er bod y nofel ar gyfer plant, mae hi'n hynod o ddiddorol oherwydd cefndir y stori a chrefft yr awdur. Mae'r stori'n cael ei lleoli yn Venice yn y 14 ganrif tra oedd Venice a Genoa benben â'i gilydd.
Mae'r awdur o Loegr, sef G.A. Henty yn fy atgoffa i o T. Llew Jones. Sgrifennodd dros 80 o nofelau (y rhan fwyaf ohonyn nhw'n storiau hanesyddol) ar gyfer plant. Dyma'r tro cyntaf i mi ddarllen un o'i lyfrau, felly fedrai ddim dweud dim am y gweddill. Mae'r nofel hon yn dda iawn fodd bynnag efo stori gyffroes a chyfle i nabod y lleoliad a'r hanes. Mae yna beth braf arall, hynny ydy, mae'r llyfr hwn a nifer mawr o'i lyfrau ar gael mewn ffurf electronig gan Amazon yn rhad ac am ddim.
Sunday, September 30, 2012
Saturday, September 29, 2012
peintiad newydd
Mae fy merch hynaf newydd gwblhau peintiad arall. Fel arfer mae hi'n hoffi paentio merched ond y tro hwn dyn ydy ei model. Mae'r peintiad yn gyfuniad o ddau ffigur hanesyddol, sef Benkei a St. Sebastian. Mae'r ddau'n dod o ddiwylliannau hollol wahanol ond mae ganddyn nhw ddau beth yn gyffredin - Cawson nhw eu llad am eu ffyddlondeb a chawson nhw eu saethu. Dw i ddim yn gyfarwydd â hanes St. Sebastian ond mae pawb yn Japan yn gwybod pwy oedd Benkei a sut buodd farw. Mae cynifer o ffilmiau wedi eu gwneud am ei fywyd dros flynyddoedd. Mae o'n ffigur poblogaidd yn y byd Kabuki hefyd.
Friday, September 28, 2012
yn ôl at ei fflat
Mae fy mam yn Japan newydd ddychwelyd at ei fflat wedi treulio bron dau fis yn yr ysbyty; baglodd dros rywbeth a thorri ei phen-glin eto. Tra oedd hi yn yr ysbyty, darganfuwyd briw yn y coluddion ac roedd hi yng nghyflwr difrifol ar un adeg. Mae hi wedi dod drwodd fodd bynnag a dechrau cerdded efo cymorth ffon. A dyma hi'n cael mynd yn ôl at ei fflat i ailgychwyn ei bywyd efo cymorth gofalwraig yn hytrach na symud i gartref henoed . Roedd hi'n swnio'n fywiog iawn pan siaradais â hi ar y ffôn. Bydd y gŵr yn mynd i Japan yr wythnos nesaf ar fusnes ac ymweld â hi hefyd. (y llun: Mam ar wyliau efo fi ym mis Mawrth)
Thursday, September 27, 2012
dau dditectif
Fel dach chi'n gwybod mod i'n gwirioni ar Commissario Brunetti, sef y ditectif yn nofelau Donna Leon. Mae'r gŵr yn hoff iawn o gyfres Japaneaidd, a'i darllen pan oes ganddo fo amser. Dw i newydd sylweddoli bod y ditectif Japaneaidd o'r enw Totsukawa yn eithaf tebyg i Brunetti, eu moddau i ymchwilio'r troseddau er enghraifft. Mae gan y ddau bennaeth sy'n pryderu bod eu ditectifs ddim yn ddigon cwrtais wrth wleidyddion neu bobl ddylanwadol. Mae Nishimura, yr awdur Japaneaidd, yn enwog am sgrifennu travel mysteries sy'n lleoli mewn ardaloedd amrywiol yn Japan.
Wednesday, September 26, 2012
enwau
Gan fy mod i'n byw yng nghanol Cenedl Cherokee, mae yna gynifer o enwau llefydd sy'n tarddu o'i diwylliant wrth reswm. Mae enw'r dref, sef Tahlequah, dw i'n byw ynddi er enghraifft, yn golygu "dau sydd yn ddigon." (Fyddwn i ddim am ddechrau adrodd yr hanes yma.) Pan oeddwn i'n mynd am dro ddyddiau'n ôl, des i ar draws enw'r ffordd unigryw hwn yn agos at y brifysgol.
Tuesday, September 25, 2012
lliwiau'r hydref
Mae'n dal yn boeth a dydy'r dail ddim yn newid eu lliwiau eto, ond mae'r hydref ar y trothwy - pwmpenni oren, eurflodau o bob lliw o blaen yr archfarchnad er enghraifft. Es i am dro yn ystod y dydd hyd yn oed i dynnu lluniau yn y dref. (Ar ôl machlud yr haul bydda i'n mynd yn ystod yr haf.) Mae'n dywyll am saith o'r gloch bellach.
Monday, September 24, 2012
"sgwrs" sydyn efo ffrancwr
Dw i newydd ffeindio'r wefan o'r enw Livemocha lle cewch chi ddysgu nifer mawr o ieithoedd ynddo fo. Cynigir un wers am ddim i brofi, a dyma gychwyn ar unwaith. Dewisais i wers ganolradd Eidaleg a thra oeddwn i wrthi, ces i gais am "sgwrs." Myfyriwr o Ffrainc oedd o. Ffrangeg ydy ei famiaith ond mae o'n medru Eidaleg gan fod o'n ei dysgu yn yr ysgol. Ac mae o'n dysgu Japaneg. Dechreuon ni sgwrsio, hynny ydy, teipio ein negeseuon yn Eidaleg (fi) ac yn Japaneg (fo.) Mae o'n byw yn Nice ac wrth ei fodd efo'r diwylliant Japaneaidd ac eisiau byw yn Japan. Er ei fod o'n dysgu ond wyth mis, mae o'n medru sgrifennu'n dda a naturiol. (Dydy Google ddim yn berffaith fel chi'n gwybod.) Ces i hwyl.
Sunday, September 23, 2012
3 - 2
Roedd gêm arall ddoe. Es i ddim gan ei bod hi'n gêm oddi cartref. Clywais i eu bod ein tîm ni wedi gwneud yn dda iawn er bod nhw'n colli. Maen nhw wedi gwella eu sgil amddiffyn yn sylweddol ar ôl ymarfer caled yr wythnos diwethaf. Sgorio a wnaeth fy mab am y tro cyntaf hefyd! Llwyddodd wych o gic rydd 30 llath oddi wrth y gôl. Hoffwn i fod wedi ei gweld! Dangosodd fy mab ei gôl i mi efo ei Lego.
Saturday, September 22, 2012
gelato
Mae gynnon ni siop hufen iâ newydd yn y dref hon. Nid "hufen iâ" ond gelato maen nhw'n ei werthu a dweud y gwir. Wedi clywed canmoliaeth gan fy merched, es i efo fy mab yno i brofi'r amheuthun. Dwedodd y ferch sy'n gweini fod y gelato yn cael ei fewnforio o'r Eidal! Dewisais i Pistacchio Siciliano ymysg dros ddwsin o flasau deniadol. Roedd o'n hynod o dda. Mae'r prisiau'n llawer uwch na'r hufen iâ Americanaidd wrth reswm oherwydd y tâl post ond mae'r gelato yn werth ei gael.
Friday, September 21, 2012
cwlwm gwallt
Dangosais y llun gan Tokyobling i fy merch efo gwallt hir; liciodd hi "gwlwm gwallt" yn fawr, a dyma hi'n dysgu sut i'w wneud o. Roedd hi angen help wrth reswm. Mi wnes i fy ngorau glas ond mae yna brinder pinnau gwallt yn y tŷ; gallai fod wedi edrych yn well. Gobeithio na fydd y cwlwm yn chwalu yn ystod y dydd. Dw i'n mynd i siopa am binnau yfory.
Thursday, September 20, 2012
golygfa
Bydda i'n gweld yr olygfa hon bron bob dydd ar fy ffordd i ysgol fy mab. Roeddwn i'n wastad eisiau tynnu llun ohoni. Penderfynais i barcio'r car wrth ochr y lôn ddoe, gosod fy merch tu ôl i mi i gadw llygad ar geir eraill, a dyma benlinio yng nghanol y lôn a chyflawni fy nghynllun.
Wednesday, September 19, 2012
gwirfoddolwr newydd
Mae gwirfoddolwr arall newydd ddechrau yn llyfrgell yr ysgol, ac roeddwn i'n dangos pethau o gwmpas iddi heddiw. Mae hi'n ddynes anhygoel - roedd hi'n arfer gweithio fel gyrrwr lori e teithio i bob cwr o'r Unol Daleithiau ar wahân i Maine. Wedi priodi ei gŵr sydd hefyd yn yrrwr lori, roedden nhw'n gyrru fel tîm nes i'w mab cael ei eni flynyddoedd yn ôl. Mae hi'n hen gyfarwydd â loris mawr fel na fedrith beidio teimlo'n chwith efo ceir bach! Roedd yn hynod o hwyl clywed ei phrofiadau.
Tuesday, September 18, 2012
tywydd prin
Mae'n braf. Diwrnod bron perffaith. Mae'n heulog heb fod yn boeth wedi glaw a wlychodd y tir am ddeuddydd. Does dim cymylau yn yr awyr las. Prin iawn ydy'r tywydd felly yn Oklahoma. Dw i'n meddwl bod yna ond pedwar ansoddair i ddisgrifio tywydd yma sef poeth, oer, sych a gwlyb. Felly mae'r tywydd felly'n haeddu blogio amdano fo. Mae'n moch cwta ni'n gorwedd ar y dec yn hapus.
Monday, September 17, 2012
tyllau yn eidaleg
Mae'n hen bryd. Ym mis Mai archebais i'r llyfr hwn gan siop yn Rhufain. Mae o wedi cyrraedd yn ddiogel beth bynnag! Holes gan Louis Sachar ydy un o fy hoff lyfrau. Mwynheais i'r fersiwn Cymraeg gan Ioan Kidd hefyd. Mae'r fersiwn Eidaleg yn anos i mi oherwydd safon fy Eidaleg, ond dw i'n ei fwynhau fodd bynnag ochr yn ochr efo'r nofel wreiddiol. Mae'n fodd da i ddysgu Eidaleg hefyd. Dw i newydd sylweddoli pa mor dda ydy'r stori. Dw i'n bwriadu gweld y fideo unwaith eto ar ôl gorffen y llyfr.
Sunday, September 16, 2012
sul dathlu
Roedd yn ddiwrnod arbennig heddiw gan fod pump o bobl yn cael eu bedyddio yn ein heglwys ni - pedwar plentyn rhwng 13 ac 11 oed yn ogystal ag un oedolyn; roedd fy mab ifancaf yn un ohonyn nhw. Mae'r plant hynny i gyd yn dod o deuluoedd Cristnogol, a gofyn i gael eu bedyddio'r tro hwn. Mae'r unig oedolyn sydd yn ei 70au, newydd gredu yn Iesu Grist. Gan nad oes gan yr eglwys fedyddfaen, byddwn ni'n gosod pwll nofio cludadwy tu allan fel arfer, ond heddiw cafodd y pump eu bedyddio mewn cow tank.
Saturday, September 15, 2012
gêm fwdlyd
Penderfynodd y rheolwr (y gŵr) fydden ni'n chwarae heddiw er gwaethaf y tywydd gwlyb gan ddweud (wrtha' i) bod pawb yn y DU yn chwarae yn y glaw'r rhan fwyaf o'r amser. Collon ni 6 - 1 yn erbyn tîm Broken Arrow yn anffodus. Dw i'n siŵr bydd ein tîm yn ymarfer yn galetach yr wythnos nesaf.
Friday, September 14, 2012
glaw
Mae'n ymddangos bod y tymor sychder wedi dod i ben - mae'n lawog drwy'r dydd heddiw. Does dim rhaid i mi lenwi'r powlenni dŵr yn yr ardd. Ar y llaw arall, cafodd gêm bêl-droed y brifysgol leol ei ganslo. Gobeithio bydd yna gêm yfory; mae fy mab a'i dîm yn awyddus i chwarae. Dw i'n bwriadu gweld y gêm hefyd gan gêm gartref bydd hi. Gawn ni weld.
Thursday, September 13, 2012
cael hwyl ar y lawnt
Mae torri'r lawnt yn dasg fy mab ifancaf bellach. Does dim rhaid iddo wneud y gwaith mor aml oherwydd y sychder yn yr haf. Roedd o wrthi, fodd bynnag, ddyddiau'n ôl tra oedd o'n ychwanegu elfen ddifyrrwch at y dasg. Sgrifennodd "13" ar ddarn o'r lawnt a'i adael fel mae pawb yn cofio mai 13 oed mae o bellach!
Wednesday, September 12, 2012
mynd at orthodeintydd
Roedd gan fy merch apwyntiad efo'r orthodeintydd, ac es â hi. Roedd y clinig newydd yn llawn o bobl ifanc fel roedd o'n edrych yn rhan o'r ysgol. Dim ond deg munud cymerodd hi er mwyn cael ei braces ei dynhau. Dwedodd y deintydd fod y braces yn gweithio mor dda fel mai ond dau fis bydd angen i gwblhau popeth.
Tuesday, September 11, 2012
diwrnod i gofio
Dylen ni byth anghofio'r diwrnod - miloedd sydd wedi cael eu lladd, eu teuluoedd, yr achubwyr a mwy. Dylen ni ddal yn wyliadwrus.
Monday, September 10, 2012
blog newydd arall
Mae gan fy merch hynaf flog newydd arall o'r enw Fash Art Home. Mae hi'n gwerthu ar y safle ond peintiadau haniaethol ar gyfer addurno cartrefi. Os dych chi eisiau rhywbeth i roi awyrgylch arbennig yn eich ystafell wely/fyw ayyb, does angen chwilio pellach.
Sunday, September 9, 2012
bag ysgol
Cafodd fy merch ei bag ysgol pinc presennol (y llun) pan oedd hi'n naw oed. Roedd o'n para'n eithaf hir hyd yma - naw mlynedd. Ond o'r diwedd mae'n dechrau cael problem, a dyma ni'n chwilio am un newydd. Ffeindion ni un hyfryd gan Amazon. Mae ganddo adolygiadau ffafriol, ac mae o'n edrych yn smart iawn; fyddwn i ddim yn meindio ei ddefnyddio fy hun. Gan fod yna ddigon o bwyntiau ar gael, archebion ni fo'n rhad ac am ddim.
Saturday, September 8, 2012
y gêm gyntaf
Mae'n ddiwrnod braf iawn iawn wedi glaw trwm a ostyngodd y tymheredd dros nos. Collon ni'r gêm gyntaf (6-2) ond dim ots. Chwaraeodd yr hogiau'n galed heb roi'r gorau iddi. Sgorion nhw ddwy gôl yn yr ail hanner hyd yn oed. (Roedd gan y tîm arall gynifer o hogiau mawr a dweud y gwir, felly roedd fel plant yn erbyn oedolion.) Roedd y gŵr yn prysur roi cynghorion ac annog yr hogiau drwy'r gêm. Edrycha' i ymlaen at y gêm nesa.
Friday, September 7, 2012
rheolwr newydd
Dechreuodd y gŵr hobi newydd, sef rheoli tîm bêl-droed hogiau ifanc y dref. Maen nhw rhwng 16 a 12 oed. Mae'n mab ifancaf ni'n un ohonyn nhw. Gan fod y tîm yn methu ffeindio rheolwr y tymor yma, gofynnwyd y gŵr a fyddai fo'n fodlon. Er ei fod o'n ofnadwy o brysur, benderfynodd dderbyn yr her, neu na fyddai tîm heb reolwr. Mae o'n hoff iawn o bêl-droed ei hun, ac fel mae'n digwydd fod o'n mwynhau'r profiad yn fawr iawn. Bydd yna gêm gyntaf yfory. Mae pawb yn awyddus.
Thursday, September 6, 2012
darlun ar yr awyr
Roedd yr awyr yn rhyfeddol p'nawn 'ma. Roedd y cymylau gwynion enfawr wedi'u torri'n ffyrnig a'u gwasgaru ar draws yr awyr las las. Roedd fel darlun gogoneddus a nefolaidd. Byddwn ni'n cael storm heno yn ôl y rhagolygon.
Wednesday, September 5, 2012
aqua alta
Mae o yma o'r diwedd - y llyfr olaf (i mi) yng nghyfres Commissario Brunetti gan Donna Leon. Dw i wedi darllen popeth ar wahân i hwn a'r tri arall dw i ddim eisiau eu darllen ymysg y 21 a sgrifennodd hi. Gofynnais i wrth y llyfrgell leol ym mis Mai am gopi. Daeth o oddi wrth lyfrgell tu allan i'n system ni. Dw i ddim yn hoffi rhai agweddau'r llyfr hwn, ond dw i eisiau ei ddarllen oherwydd cefndir y stori, sef aqua alta - y llifogydd sy'n ymosod Venice yn aml yn ystod y gaeaf.
Tuesday, September 4, 2012
dŵr i'r adar
Mae tywydd poeth wedi dychwelyd unwaith yn rhagor. Mae hi'n boeth - dros 100F/38C eto. Dim glaw. Dw i wedi gosod dwy bowlen efo dŵr yn yr ardd i'r adar ac anifeiliaid bach gwyllt. Mae'n hwyl eu gweld nhw'n yfed dŵr a chael bath yno. Gan eu bod nhw'n defnyddio'r powlenni mor aml, dylwn i eu llenwi'n ffyddlon. Dw i'n barod am yr hydref.
Monday, September 3, 2012
paned cyn corwynt
Mae pedwar o fy mhlant i ffwrdd am ddwy noson yn cael amser da efo'u ffrindiau mewn gwersyllfa ger Afon Illinois. Dim ond fy ngŵr, fy merch hynaf a'i gŵr adref. Ces i ddigon o amser i ymlacio'r bore 'ma. Mae'r plant iau'n dod nôl unrhyw funud a dyma fi'n mwynhau paned (cymysgedd o goffi cryf a siocled poeth) cyn cychwyn ar y pentwr enfawr o olchi anochel.
Sunday, September 2, 2012
tri phenblwydd
Roedden ni'n arfer cael tri dathliad penblwydd mewn wythnos mwy neu lai ym mis Medi. Roedd hynny'n golygu mod i'n gorfod paratoi tair cacen penblwydd a gwahodd eu ffrindiau ac yn y blaen. Roedd yn wythnos flinedig iawn i mi. Ond gan fod pawb adref rŵan (dydy hyn ddim yn digwydd yn aml bellach) ar wahân i fy ail ferch, a gan fod pawb yn "fawr," cawson ni ond un dathliad efo un gacen heb westai. Ac aethon ni i dŷ bwyta wedyn am yr achlysur.
Saturday, September 1, 2012
da iawn abertawe
Mae fy merch hynaf a'i gŵr a fy mab hynaf yn treulio'r penwythnos Labor Day yma. Mae fy mab yn talu i weld gemau pêl-droed gan Fox Sports. Felly roedd o, ei frawd iau a'u tad wrthi'n gwylio un o'r gemau Premier League y bore 'ma, sef y gêm rhwng Abertawe a Sunderland. Mae Abertawe'n gwneud mor dda'n ddiweddar fel mae'r gŵr eisiau crys-T y tîm yn ychwanegu at ei gasgliad o wahanol crysau-T pêl-droed.
Subscribe to:
Posts (Atom)