Tuesday, November 6, 2007

atgofion o gymru 1

Mae rhai ohonoch chi'n gwybod mod i wedi mynd i Gymru yr haf ma am y tro cynta. Dw i'n meddwl sgwennu o bryd i'w gilydd am rai digwyddiadau yn y siwrnau (diolch i'r dyddiadur o'n i'n gadw.) Dysgu Cymraeg yn yr ysgol haf a chyfarfod fy ffrindiau rhyngrwyd oedd prif fwriad y siwrnau na. Ond mi ges i wneud llawer mwy na hynny. Mi nes i sgwennu'r hanes at fy ffrindiau'n barod ond dw i'n meddwl bod yn syniad da sgwennu yn fy mlog.

Ar ddiwedd mis Mehefin, mi nes i hedfan o Dulsa, Oklahoma i Heathrow.

"Why Wales?" Gofynodd merch wrth gownter yn Heathrow ar ôl i mi ddweud mod i'n mynd i Gymru. Mi atebes i, "I just like it."

Yna, es i yn syth ar y tiwb a'r trên i Wrecsam er mwyn treulio dwy noson efo fy ffrind. Ro'n i'n llugso cês trwm ac eto roedd rhaid i mi fynd i fyny ac i lawr y grisiau! Ond diolch i'r dynion clên ym Mhrydain, mi ges i gymorth bob tro.

Mi gyrhaeddes i Gorsaf Caer ac ro'n i'n gyffro i gyd gweld arwydd Cymraeg (dwyieithog a dweud y gwir) am y tro cynta. Am waharddiad ysmygu oedd o.

2 comments:

Linda said...

Syniad da iawn i ti sgwennu am dy daith i Gymru Emma, yn enwedig gan dy fod wedi cadw dyddiadur.
Yn edrych ymlaen i ddarllen mwy.

Emma Reese said...

Diolch i ti, Linda. Mae hyn yn bleserus iawn i mi hefyd.