
Mi adawes i'r llety heb frecwast bore wedyn achos bod rhaid i mi ddal y trên am wyth o'r gloch. Roedd hi'n bwrw'n eitha trwm. Rôn i'n cerdded wrth lusgo'r cês oedd i fod i fod yn "water-proof." Mi brynes i frecwast yn siop Spar a mynd i'r orsaf. Doedd 'na neb yno, dim lle i brynu tocynnau hyd yn oed.
Mi ddaeth y trên efo ddau gerbyd ar amser. Mi ges i'r holl gerbyd drosta i fy hun bron. Eisteddes i ar sedd wrth fwrdd a chael fy mrecwast. Yna daeth y tocynnwr. "Bore da. Dw i'n mynd i Aberystwyth," dwedes i cyn iddo gael cyfle i siarad yn Saesneg. Roedd Aled, y tocynnwr yn glên iawn. Mi naeth o ddweud popeth yn Gymraeg yn araf. Gwerthodd o docyn, Day Ranger oedd yn rhatach na'r un cyffredin weles i ar y we. Ar ôl cael tipyn o sgwrs, gofynes i gawn i dynu ei lun. "Wrth gwrs. Dim problem," meddai.
2 comments:
Braf iawn cael gweithwyr yn medru'r Gymraeg ar y trenau . Oedd ganddo fathodyn tybed?
Nac oedd. Mi ddechreues i siarad Cymraeg wrth obeithio basai fo'n siarad hi hefyd.
Post a Comment