Friday, November 16, 2007

atgofion o gymru 8


Pan gyrhaeddes i efo fy nghês trwm y neuadd breswyl yn Ffriddoedd, doedd y lifft ddim yn gweithio. Ac ar y 7ed llawr oedd fy ystafell (yr 8ed yn UDA)!! Ond mi ges i gymorth eto, diolch i ddyn clên arall.

Wrth i mi fynd drwy drws blaen y neuadd, mi nes i gyfarfod dysgwr arall byddai'n fynychu'r ysgol haf. Pan glywodd o fy enw, dwedodd o, "I know you!" Roedd o wedi darllen fy mhostiau i grwp yahoo o'r blaen. Roedd o'n dwad o Lerpwl ac un o'r bobl clên rôn i wedi cyfyrfod yng Nghymru. Naeth o roi lifft yn ei gar i mi bob dydd yn ystod y cwrs.

Roedd 'na fyfyriwr o Chicago ar yr un llawr hyd yn oed. Mi ddaeth y tri ohonon ni'n ffrindiau da.

Roedd fy ystafell yn gyfleus iawn efo ystafell ymolchi breifat. Mi ges i olygfa fendigedig o'r ffenest hefyd. Medrwn i weld Afon Menai, Beaumaris a Llandudno. Roedd gwylanod yn hedfan yn aml. Mi weles i enfys Gymreig am y tro cynta! (Diolch i Iwan am y llun hwn.)

2 comments:

Linda said...

Yn dal i fwynhau darllen hanes dy wyliau yng Nghymru emma, ac yn falch dy fod ti wedi cyfarfod â phobl clên ym Mangor.
Llun da iawn !

Emma Reese said...

Diolch i ti, Linda. Dw i'n mwynhau sgwennu fy hanes. Mi ges i'r llun hwn oddi wrth fy ffrind o Lerpwl.