Saturday, December 1, 2007

atgofion o gymru 19


Roedd yn tro cynta i mi fynd i wasanaeth Anglicanaidd. Rôn i braidd yn syn bod 'na ddim llawer o wahaniaeth rhyngddo fo a'n un ni yn Oklahoma (Evangelical Free Church.) Un peth rôn i'n sylwi oedd bod nhw wedi sefyll yn gydamserol i ganu pob emyn.

Dôn i ddim yn deall y bregeth (yn Gymraeg) yn dda ond roedd hi'n hyfryd cael addoli Duw efo'r bobl na. Mae 'na gymaint o ieithoedd yn y byd. Ac eto mae'r holl Gristnogion yn credu ac yn addoli'r un Duw.

Mi naeth Dogfael fy nghyflwyno i lawer o bobl yno. Roedd pawb yn glên iawn siarad â fi.

Mi ges i amser braf yn Aberystwyth er gwaetha'r glaw. Yna, cerddes i at yr orsaf i ddal y bws i Gaerdydd.

2 comments:

Dogfael said...

Roedd hi'n hyfryd cael dy gwmni gyda ni Emma. Does dim rhaid deall popeth, does neb yn deall popeth!

Emma Reese said...

Diolch yn fawr i ti a phawb.