Saturday, December 15, 2007

miss p i swper

Mi gaethon ni Miss P, tiwtor Ffrangeg fy merch i swper heno. Cenades yn Ffrainc am 38 mlynedd oedd hi. Roedd hi'n gweithio ger Paris yn bennaf ac mae hi newydd ymddeol. Roedd yn hwyl clywed ei hanes. Pan oedd hi'n dysgu Ffrangeg yn Ffrainc cyn cychwyn gwaith yr Efengyl, roedd hi'n ceisio dysgu'r ynganiad yn ofalus. Mae hi'n swnio'n ardderchog (dw i'n meddwl.) Dydy hi ddim yn nabod neb sy'n siarad Ffrangeg yn y dre ma. Felly mae hi'n siarad yr iaith ar Skype.

Mae'r tywydd wedi bod yn arw. 25F(-5C) ydy hi rwan. Gobeithio na ddoith storm iĆ¢.

No comments: