Thursday, February 28, 2008

dringo i'r eitha

Mi nes i fwynhau'r rhaglen hon er gwaetha anhawster yr iaith, diolch i Linda am y wybodaeth. O leia, mae'r dafodiaith yn swnio'n gyfarwydd ac rôn i'n dallt rhan ohoni hi. Pam dydy'r hogyn na ddim yn gwisgo crys, tybed? Mi fydd o'i amddiffyn rhag cael ei grafu.

Pob llwyddiant i Ioan. Gobeithio na neith o syrthio'n wael.

2 comments:

Linda said...

Yn falch dy fod wedi medru ei weld ac wedi mwynhau'r rhaglen arbennig yma.

Emma Reese said...

Diolch am y wybodaeth, Linda. Mi nes i wylio cyfres arall o Wynebau Newydd, sef Y Chef a'r Afal Mawr hefyd. Roedd yn wych weld hogyn o Ynys Môn yn gwneud mor dda mewn bwyty crand yn Efrog Newydd. Fy hoff raglen S4C ydy Wynebau.