Tuesday, July 29, 2008

cwrs cymraeg yn iowa, diwrnod olaf (20/7)


Rhaid popeth dod i ben, hyd yn oed cwrs Cymraeg.

Y rhaglen ola oedd gwasanaeth boreol ddydd Sul. Mi adawodd llawer o bobl bore cynnar i gychwyn eu teithiau hir. Mi naeth y gweddill ohonon ni ymgynnull mewn ystafell fach yn yr eglwys ar y campws a chanu emynau Cymraeg. Ar ôl pregeth ddwyieithog gan Deian, roedd yn amser dweud ffarwel. Tipyn trist oedden ni i gyd. Mi naethon ni dreulio'r holl wythnos efo'n gilydd wedi'r cwbl.

Diolch i Monna o Wisconsin naeth roi lift i Sarah a fi i'r maes awyr. Mi nes i gyrraedd adre am 12:30 a.m. yn ddiogel.

Roedd 'na dipyn o siom neu dau yn y cwrs ond ar y cyfan dw i'n falch a bodlon mod i'n cael mynd i gwrs Cymraeg Madog. Mi ges i brofiad cofiadwy.

Yn Alberta, Canada bydd y cwrs nesa. Ac yn 2010 mae Madog yn gobeithio mynd â fo i Gymru! (dim manylion eto) 

Diolch yn fawr i'r tiwtoriaid, aelodau'r bwrdd a'r holl dysgwyr.

2 comments:

Corndolly said...

Amser i ddechrau meddwl am y flwyddyn nesaf ! Tyrd i'r Bala a'r Eisteddfod Genedlaethol y tro nesaf

Emma Reese said...

Un posibilrwydd ydy hynny, ond rhaid i mi feddwl mwy.