Sunday, May 17, 2009

cerdded

Roedd hi'n ddiwrnod braf eto. Es i am dro ar ôl swper. Roedd yr awyr yn las a chlir. Doedd yna ddim gwynt am newid. Roedd hi bron yn oeraidd.

Gweles i gath ddu'n eistedd ar y palmant a dechrau siarad Cymraeg ati hi: helo, ti'n iawn? Sut ddiwrnod ges ti? Ond cyn imi gael dweud digon, trodd hi ei chefn ata i a cherdded tuag at y tyˆ agos. A dyma sylweddoli bod rhywun yn sbio arna i drwy ffenestr y tyˆ ..... 

Noswaith braf oedd hi beth bynnag.

6 comments:

Zoe said...

Aw, ciwt. Dw i'n siarad efo fy nghath yn y Gymraeg yn aml. Mae'n ffordd da i ymarfer! Dydyn nhw ddim yn chwerthin am fy acen ofnadwy!

Emma Reese said...

Ydy wir. Mae'n llawer gwell na siarad at wal!

Corndolly said...

neu yn y drych ! Cofia?

Emma Reese said...

Ia, mae'n llawer mwy anodd siarad at y drych na at gath!

asuka said...

wedodd y gath ddim byd yn ôl wrthyt ti?

Emma Reese said...

Naddo, dim ond sbio arna i a throi'n ôl waneth hi heb fewian hyd yn oed!