Tuesday, May 26, 2009

'enchilada' i lysieuwyr


'Enchilada' ydy un o'n hoff brydau o fwyd ni. Bydda i'n defnyddio cig eidion neu gyw iâr fel arfer ond roeddwn i'n ceisio gwneud un heb gig neithiwr wrth feddwl am rai o fy ffrindiau da sy ddim yn bwyta cig. Dyma'r cynhwysion:

tofu
madarch
nionyn
caws Feta a Cheddar
powdr garlleg, tarmeric, pupur, halen
saws 'enchilada'
'tortillas'

Roedd o'n weddol dda ond dw i'n rhyw feddwl fod o angen perlysiau cryfach achos nad oes gan tofu neu'r llysiau flas cryf. Hwyrach y gwna i arbrofi efo garlleg ffres a chaws arall.

3 comments:

asuka said...

enchiladas - sôn am ffeind!
rown i'n arfer cael enchiladas gwych o fwyty yn somerville a fyddai'n gwneud rhai llysieuol a phyprynnau gwyrdd (o ryw fath arbennig mae'n debyg!) a wynwns wedi eu ffrïo yn y canol.
rwy'n siwr bod dy rai di'n dda iawn hefyd.

(rwy'n dwlu ar fwyd mecsico - ond yr hyn nad wy'n leicio yw'r cymysgeddau o speisys y byddi di'n cael mewn rhyw "fajita kit" a phethau tebyg yn yr archfarchnad. mae'r sesnins 'na yn rhy gryf i fy stumog i!)

Corndolly said...

Beth am arbrofi efo sbeisiau gwahanol? Ond paid â gofyn i mi am gyngor !

Emma Reese said...

Dydy saws 'enchilada' ar silffoedd mewn siop ddim yn rhy gryf, dw i ddim yn meddwl. Ella mai dyna pam fod angen sesno'r tofu. Dw i'n meddwl ei giwbio a ffrio fo wedi'i sesno, yna ei ychwanegu at y llysiau yn lle ei stwnsio fel gwnes i'r tro ma.

Beth ydy pyprynnau?