bisgedi
Mae fy nwy ferch wedi bod wrthi'n crasu bisgedi i'w ffrindiau'n anrhegion. Fe wnaethon nhw ryw 200. Ân nhw â'r anrhegion i'r ysgol yfory, y diwrnod olaf cyn gwyliau'r Nadolig. Roedd rhaid i mi ddechrau paratoi swper yn hwyrach oherwydd bod y merched yn meddianu'r gegin. Rŵan maen nhw'n gwneud cardiau i fynd efo'r bisgedi. Byddan nhw'n mynd i'r gwely'n hwyr heno.
2 comments:
Wedi darganfod dy flog ar Blogiadur ac yn mwynhau!
Diolch yn fawr i ti! Dw i'n hapus cael sylwadau.
Post a Comment