Tuesday, January 31, 2012
gŵyl gyoza
Cynhalir gŵyl gyoza bob mis Tachwedd ers 13 mlynedd yn Utsunomiya, dinas ger Tokyo. Gyoza ydy saig boblogaidd yn Japan ac mae Utsunomiya'n enwog am nifer mawr o dai bwyta gyoza ynddi hi - dros 80. Mae llawer o bobl yn dod i'r ŵyl i flasu pob math o gyoza sy'n cael ei werthu am 100 yen (£0.84) y plât. Mae fy nheulu'n hoff iawn o gyoza; bydden nhw wrth eu boddau'n mynd i'r ŵyl hefyd.
Monday, January 30, 2012
kaki
Mae yna debygrwydd rhwng y Japaneg a'r Eidaleg o ran ynganu. Mae gan ill dwy'r un llafariaid ac mae'r geiriau'n gorffen efo un ohonyn nhw bob tro (wel, bob tro yn y Japaneg a bron bob tro yn yr Eidaleg.) A dweud y gwir mae'n haws i mi siarad yr Eidaleg na'r Saesneg na'r Gymraeg, o ran ynganu cofiwch; dw i ddim yn sôn am y gramadeg.
Dw i newydd ffeindio beth ydy persimmon yn yr Eidaleg - cachi (kaki.) Kaki dan ni'n ei alw fo yn y Japaneg hefyd! Ond mae'r pwyslais ar a yn yr Eidaleg, ac ar i yn y Japaneg.
Dw i newydd ffeindio beth ydy persimmon yn yr Eidaleg - cachi (kaki.) Kaki dan ni'n ei alw fo yn y Japaneg hefyd! Ond mae'r pwyslais ar a yn yr Eidaleg, ac ar i yn y Japaneg.
Sunday, January 29, 2012
peidiwch â chysgu
Doeddwn i erioed wedi ymddiddori mewn operâu ond des i ar draws Nessun Dorma gan Puccini. Mae o'n anhygoel o dda! Wrth gwrs mai efo hwn synnodd Paul Pots feirniaid Britain's Got Talent flynyddoedd yn ôl, ond doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb ar y pryd. Ymysg y perfformiadau gan nifer o gantorion o fri, un gan Andrea Bocelli ydy fy ffefryn.
Mae gan yr opera sy'n cynnwys Nessun Dorma, sef Turandot stori ddiddorol. Ond a dweud y gwir, dw i ddim yn deall pam fod y tywysog wedi syrthio mewn cariad efo'r dywysoges honna, a hithau mor oer.
Mae gan yr opera sy'n cynnwys Nessun Dorma, sef Turandot stori ddiddorol. Ond a dweud y gwir, dw i ddim yn deall pam fod y tywysog wedi syrthio mewn cariad efo'r dywysoges honna, a hithau mor oer.
Saturday, January 28, 2012
kiyoko
Es i i'r cartref henoed gerllaw i weld Kiyoko, dynes o Japan eto heddiw. Ers iddi symud i'r cartref, mae ei demensia wedi gwaethygu; dw i ddim yn siŵr bod hi'n fy adnabod bellach er bod hi'n falch o fy ngweld bob tro. Dim ond llai na blwyddyn yn ôl, roedden ni'n cael sgyrsiau dros baned yn ei fflat yn rheolaidd. Mae hi wedi colli pwysau'n arswydus hefyd. Ond ces i fy nghalonogi'n ei gweld hi heddiw; mae hi wedi cael lliwio ei gwallt ac roedd hi'n gwisgo tipyn o golur hyd yn oed. O leiaf mae'r staff yn ymddangos yn glên.
Friday, January 27, 2012
sufen sur
Mae tad y gŵr yn rhoi tipyn o hufen sur yn ei uwd. Pan glywais i hynny, roeddwn i'n meddwl byddai hufen sur yn suro'r uwd. Ond ces i fy synnu'n ffeindio fod o'n ychwanegu blas gwych ar fy uwd. Dw i'n gwybod bellach beth i'w wneud efo sbarion o hufen sur.
Thursday, January 26, 2012
cinio bach
I ginio bach bydda i'n bwyta beth bynnag sydd ar gael yn y gegin; fydda i ddim eisiau trafferthu coginio drosta i fy hun. Ond heddiw, roedd gen i awydd bwyta spaghetti heb saws. Felly y bu. Coginiais i dipyn o basta mewn padell ffrio; fe wnaeth y dŵr orlifo dro ar ôl tro. Dim ots. Ces i spaghetti syml efo menyn, powder nionod/garlleg/persli/basil, halen, pupur a chaws parmesan dw i wedi ei ratio ymlaen llaw. Mmmm... mae'r stumog yn hapus!
Wednesday, January 25, 2012
niwsans
Mae'r gŵr ar ei ffordd i Las Vegas er mwyn mynychu cynhadledd optometreg arall. Ffoniodd o'n dweud bod yr awyren yn sownd yn Phenix oherwydd Arlywydd Obama. Mae o ar ei ffordd i Vegas hefyd, felly rhaid i'r awyrennau eraill i gyd aros nes i'w un o gyrraedd yn ddiogel. Mae awyren y gŵr yn hwyr yn barod. Does gwybod faint cymrith i gyrraedd pen y daith. Mae ei frawd yn aros amdano fo ym maes awyr Las Vegas.
Tuesday, January 24, 2012
tŷ arbennig
Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod yna dai yn Japan a gafodd eu symud a'u hailgodi fel maen nhw'n ei wneud yn San Ffagan. Mae un ohonyn nhw'n perthyn i'r awdur clasurol adnabyddus, sef Soseki Natsume. Roedd y tŷ, sy'n fy atgoffa i o'r ffilm Totoro, yn Tokyo'n wreiddiol ond mae o mewn dinas fawr orllewinol bellach. Diolch i Tokyobling am roi gwybodaeth ddiddorol i mi dro ar ôl tro!
Monday, January 23, 2012
cario'r ddraig
Mwynheais i hunangofiant Orig Williams yn fawr iawn. Dw i ddim yn ymddiddori mewn reslo ond sgrifennodd Orig mor dda fel roedd yn ddiddorol darllen am ei ornestau a'i hanes. Cymro Cymraeg pybyr oedd o ac roedd o'n cario'r ddraig yn llythrennol ac yn ei galon lle bynnag aeth o yn y byd - Asia, Affrica, Ewrop, America.
Enwodd ei ferch yn Tara Bethan Orig Williams er mwyn iddi ddal ati gario'r ddraig ar ôl i'w thad. Dysgais i fod Tara'n golygu hapusrwydd yn y Wyddeleg.
Enwodd ei ferch yn Tara Bethan Orig Williams er mwyn iddi ddal ati gario'r ddraig ar ôl i'w thad. Dysgais i fod Tara'n golygu hapusrwydd yn y Wyddeleg.
Sunday, January 22, 2012
un funud fach
Fydda i ddim yn gadael y tŷ heb fy nghamera'n ddiweddar wedi colli cynifer o gyfleoedd i dynnu lluniau da hebddo. Dw i'n falch o fy mhenderfyniad y bore 'ma pan welais i'r gweinidog yn dal ei ŵyr bach cyn y gwasanaeth. Dyma ruthro atyn nhw efo fy nghamera a thynnu llun. Dw i wedi gofalu am y babi bach yn yr eglwys llawer gwaith; babi da ac annwyl ydy o.
Saturday, January 21, 2012
maybe, lucky (enwau'r cathod)
Mae'r plant wedi bod yn gofalu am ddwy gath y gymdoges am bythefnos. Gan fod heddiw ydy diwrnod olaf eu dyletswydd, es i gyda'r plant at y cathod neithiwr i'w gweld nhw. Mae gynnyn nhw fywyd braf! Mewn gair, maen nhw'n meddiannu'r tŷ'r cyfan gwbl yn neidio ar fwrdd cegin a chael eu bwyd yno'n hamddenol. Mae yna fflap cath iddyn nhw fynd a dod fel y mynnan nhw. Llwyddodd un ohonyn nhw ddal aderyn bach a dod â fo yn yr ystafell fyw hyd yn oed! Ond maen nhw'n gathod cyfeillgar iawn ac yn falch o'n gweld ni.
Friday, January 20, 2012
prinder toiledau cyhoeddus
Yn ôl y newyddion mae yna 40% llai o doiledau cyhoeddus yng Nghymru na deg mlynedd yn ôl. Gall hyn yn broblem fawr i'r trigolion a'r twristiaid.
Tŷ bach ydy'r peth cyntaf a fyddwn i'n chwilio amdano fo lle bynnag awn i. Yn ffodus roeddwn i'n llwyddo i sicrhau un bob tro pan oeddwn i yng Nghymru. Ond unwaith pan es i at un, roedd arwydd yn dweud bod y lle wedi cau ac yn dangos lleoliad un arall. Sioc! Roedd y daith at y llall yn teimlo'n ofnadwy o hir!
Os Llywodraeth Cymru eisiau hyrwyddo twristiaeth, dylen nhw sicrhau bod yna ddigon o doiledau cyhoeddus ar gael.
Tŷ bach ydy'r peth cyntaf a fyddwn i'n chwilio amdano fo lle bynnag awn i. Yn ffodus roeddwn i'n llwyddo i sicrhau un bob tro pan oeddwn i yng Nghymru. Ond unwaith pan es i at un, roedd arwydd yn dweud bod y lle wedi cau ac yn dangos lleoliad un arall. Sioc! Roedd y daith at y llall yn teimlo'n ofnadwy o hir!
Os Llywodraeth Cymru eisiau hyrwyddo twristiaeth, dylen nhw sicrhau bod yna ddigon o doiledau cyhoeddus ar gael.
Thursday, January 19, 2012
rhy araf
Mae'r rhyngrwyd yn mynd yn arafach fyth yn ddiweddar. Roedd o'n araf o'r dechrau, ond mae'r sefyllfa'n gwaethygu. Clywais i fod yr achos ydy bod mwyfwy o bobl yn lawrlwytho ffeiliau enfawr yn ddiweddar a dw i'n byw ymhell o dŵr trosglwyddo. Dydy Skype ddim yn gweithio'n iawn chwaith hyd yn oed heb droi'r fideo ymlaen. Pe baswn i'n symud tŷ, byddai'r rhyngrwyd cyflym yn amod pwysig!
Wednesday, January 18, 2012
baswn i'n licio
Dw i ddim yn teimlo'n dda ers neithiwr er fy mod i wedi gwella llawer erbyn hyn. Dw i'n dal i deimlo'n sâl pan ga' i fwyd neu ddiod. Felly fedra i ddim bwyta fel arfer. Ces i de mintys, te chamomile, ffrwythau ac iogwrt heddiw. Yr hyn dw i'n ei golli mwyaf ydy'r byrbryd o goffi a bagel efo Nutella!
Tuesday, January 17, 2012
lle mae'r gaeaf?
Dan ni'n cael gaeaf ofnadwy o fwyn. Dyma'r tro cyntaf i ni beidio defnyddio'n llosgwr logiau ni hyd at ganol mis Ionawr ers ei brynu 12 mlynedd yn ôl. Does dim sôn am eira go iawn eto. Dw i newydd weld drwy'r ffenestr hogyn mewn crys-T yn beicio heibio. Dw i ddim yn barod am wanwyn eto.
Monday, January 16, 2012
baruto
Reslwr Swmo o Estonia ydy Baruto Kaito. Mae'n anodd i rai o wledydd eraill gael derbyn ym myd Swmo yn Japan heb sôn am ennill gonest ar ôl y llall. Ond mae o wedi gwneud yn dda iawn ac wedi cyrraedd Ozeki, sef yr ail safle uchaf hyd yn oed. Mae o'n siarad pum iaith gan gynnwys Japaneg. Clywais i ei fod o'n boblogaidd ymysg y reslwyr eraill oherwydd ei gyfeillgarwch. Gobeithio bydd o'n dal ati a bwrw ymlaen. Dyma un o'i ornestau. (Truan o'r dyfarnwr! Gobeithio ei fod o'n iawn.)
Sunday, January 15, 2012
neges
Dydy Radio Cymru ddim ar gael ar hyn o bryd; ces i neges annisgwyl wrth fynd at y linc rŵan. Bydd o'n gweithio nes ymlaen dw i'n siŵr, ond yr hyn sy'n mynd ar fy nerfau ydy mai yn Saesneg mae'r neges. Rhaid i Radio Cymru sylweddoli mai pobl sy'n deall Cymraeg yn troi at eu rhaglenni. Neu dydyn nhw ddim eisiau trafferthu eu hun yn rhoi'r neges yn Gymraeg ond defnyddio'r un Saesneg a baratowyd gan BBC?
Saturday, January 14, 2012
spaghetti arall
Spaghetti efo peli cig y tro hwn - mae'n flasus, llawer gwell na fy un i. Rysait Alessandro ydy o (dw i'n rhoi hyn ar spaghetti.) Roedd i'n arfer ffrio peli cig cyn eu coginio nhw mewn saws tomatos, ond mae Alessandro'n eu coginio nhw mewn saws o'r dechrau. Efallai mai dyna'r gyfrinach i'w gwneud nhw'n feddal. Dydy'r cynhwysion ddim yn unigryw o gwbl ond mae'r canlyniad yn arbennig o dda.
Friday, January 13, 2012
mae pawb yn iawn
Mae'r gŵr newydd ddod adref yn ddiogel. Mae trychineb neu ddau'n debygol o ddigwydd yn y teulu tra bydd o oddi cartref - ces i un o fy nwy ddamwain gar; aeth drws y garej yn sownd, trodd y cyflyrydd awyr a'r oergell pan oedd hi dros 105F..... Dw i'n ddiolchgar bod ni'n iawn y tro hwn. Mae'r plant a'r gŵr yn gwylio eu hoff DVD, sef "24" ar hyn o bryd. Bydd three-day-weekend arnyn nhw.
Thursday, January 12, 2012
saethu â bwa
Mae plant hŷn yr ysgol wrthi'n ymarfer saethu â bwa ers misoedd ar gyfer cystadleuaeth a gynhelir cyn hir. Maen nhw'n ymarfer dwywaith yr wythnos (os bydd y tywydd yn sych) ar ôl yr ysgol. Gan ein bod ni'n cael gaeaf mwyn hyd yma, maen nhw'n mwynhau gwella eu sgil yn yr awyr iach.
Wednesday, January 11, 2012
o hawaii
Mae'r gŵr yn ymweld â'i rieni yn Hawaii ers dyddiau. Amcan y daith ydy eu helpu cymaint ag y sy'n bosibl. Mae tad y gŵr newydd droi'n 91 oed. Er ei fod o'n gymharol iach a byw'n annibynnol (mae o'n dal i yrru!) mae o angen cymorth wrth reswm. Dydy mam y gŵr ddim cyn iached yn anffodus. Felly mae'r gŵr yn treulio amser efo nhw'n trwsio'r sinc, tacluso'r ardd helpu'r gwaith papur ac yn y blaen. Wrth gwrs ei fod o'n mwynhau sgwrsio efo'i dad yn hamddenol. (Mae'n anodd i'w fam siarad bellach.) Mae o'n mynd i'r ganolfan hamdden i godi pwythau hefyd - yr unig "adloniant" iddo fo yn ystod y daith.
Tuesday, January 10, 2012
hwrê i daid!
Dw i'n gwrando ar Mike Huckabee ar y we bob bore. Yn ogystal â'i adroddiad clir o ran y wleidyddiaeth, dw i'n mwynhau clywed hanesynnau diddorol cenedlaethol a rhyngwladol gynno fo.
Un diweddaraf oedd am ddyn 84 oed yng Nghaergrawnt a oedd yn baffiwr proffesiynol. Cafodd Mr. Sandy ei fygwth gan lanc hefo cyllell am bres, ond dewisodd y llanc ddyn anghywir. Lloriodd Mr. Sandy ei ymosodwr efo ei ergyd sydyn ar ei drwyn. A chiliodd y llanc yn reit gyflym!
Un diweddaraf oedd am ddyn 84 oed yng Nghaergrawnt a oedd yn baffiwr proffesiynol. Cafodd Mr. Sandy ei fygwth gan lanc hefo cyllell am bres, ond dewisodd y llanc ddyn anghywir. Lloriodd Mr. Sandy ei ymosodwr efo ei ergyd sydyn ar ei drwyn. A chiliodd y llanc yn reit gyflym!
Monday, January 9, 2012
cyngor mam
Rhaid gwrando ar gynghorion mamau. Mae fy mam sydd yn 90 oed eleni, yn dal i roi cynghorion amrywiol i mi yn enwedig ar bethau ynglŷn â bwyd ac iechyd. Un diweddar oedd rhoi rhywbeth cynnes am eich gwddf pan dach chi'n teimlo'n oer yn y tŷ yn hytrach na gwisgo haen o sanau neu ddillad. (Wiw i chi ddweud wrthi godi tymheredd yr ystafell.)
Dw innau hefyd cadw'r tŷ braidd yn oeraidd pan fydda i ar fy mhen fy hun gan wisgo dillad cynnes. Roeddwn i'n dal i deimlo'n oer, felly penderfynais i roi sgarff gwlân am fy ngwddf fel merch dda. Dyma deimlo'n gynnes yn syth! Rhaid gwrando ar gyngor mam.
Dw innau hefyd cadw'r tŷ braidd yn oeraidd pan fydda i ar fy mhen fy hun gan wisgo dillad cynnes. Roeddwn i'n dal i deimlo'n oer, felly penderfynais i roi sgarff gwlân am fy ngwddf fel merch dda. Dyma deimlo'n gynnes yn syth! Rhaid gwrando ar gyngor mam.
Sunday, January 8, 2012
kindle
Mae un o'r merched newydd brynu Kindle. Roedd yna broblem ar gychwyn oherwydd bod Amazon wedi anghofio rhywbeth technegol cyn ei yrru. Ond mae popeth yn iawn wedi i'r broblem gael ei datrys bellach. Dw i'n cael fy synnu gweld y sgrin fach glir. Mae hi'n debyg i dudalen llyfr. Does dim llacharedd arferol sydd ar sgrin gyfrifiadur. Prynais i ddwy nofel Kindle ond dw i'n eu darllen ar y cyfrifiadur. Baswn i am gael benthyg ar ei Kindle rywdro!
Saturday, January 7, 2012
rysait newydd
Dw i'n mwynhau gweld ryseitiau ar You Tube yn ddiweddar, yn enwedig rhai Eidalaidd drwy gyfrwng yr Eidaleg. Dw i a'r teulu'n hoffi pasta, felly mae hyn yn ffordd dda i mi ddysgu ryseitiau newydd ac iaith ar yr un pryd.
Mi wnes i Spaghetti alla Carbonara neithiwr. Roedd yn arbennig o dda er fy mod di'n methu ffeindio Guanciale (bacwn Eidalaidd) a fy mod i'n defnyddio caws Parmigiano yn lle Pecolino. (Mae Pecolino'n ofnadwy o ddrud!) Pan goginiais i Carbonara o'r blaen, trodd yn wyau wedi'u sgramblo, ond y tro hwn roedd o'n fel dylai fod.
Mi wnes i Spaghetti alla Carbonara neithiwr. Roedd yn arbennig o dda er fy mod di'n methu ffeindio Guanciale (bacwn Eidalaidd) a fy mod i'n defnyddio caws Parmigiano yn lle Pecolino. (Mae Pecolino'n ofnadwy o ddrud!) Pan goginiais i Carbonara o'r blaen, trodd yn wyau wedi'u sgramblo, ond y tro hwn roedd o'n fel dylai fod.
Friday, January 6, 2012
peryglus!
Pan yrrais i at y groesfan y bore 'ma efo'r plant, gwelon ni geirw'n croesi'r heol ar frys un ar ôl y llall - un dau tri .... saith i gyd! Cawson ni i gyd fraw. Y groesfan y gwelwyd llawer o ddamweiniau ceir ynddi ydy hi. Yn ffodus croeson nhw'n ddiogel i'r ochr arall. Gobeithio y byddan nhw'n aros yno!
Thursday, January 5, 2012
diwrnod braf
Roedd y tymheredd yn 70F heddiw. Dan ni'n cael gaeaf mwyn dros ben (hyd yma.) Gan fod gen i awr rydd yn y dref cyn casglu fy merch, penderfynais i gerdded o gwmpas. Doedd dim llawer o bethau newydd na diddorol, ond o leiaf roedd yn braf cerdded yn yr haul. Ces i gyfle i dynnu llun gwych o faneri America ac Oklahoma. Ces i fap newydd o'r dref yn rhad ac am ddim yn swyddfa'r dref hyd yn oed.
Wednesday, January 4, 2012
traddodiadau japaneaidd
Mae yna ddigwyddiadau traddodiadol amrywiol ar ddechau blwyddyn yn Japan. Dyma ddau ohonyn nhw:
*Cicio pêl ledr mewn cylch - rhaid cadw'r bêl rhag cyffwrdd y daear.
*Cystadleuaeth cardiau - ysgrifennir hanner olaf y cerddi traddodiadol ar y cardiau. Un sy'n eu cofio'n dda'n ennill gan eu taflu nhw i ochr pan ddarlledir y hanner cyntaf gan y darlledwr.
*Cicio pêl ledr mewn cylch - rhaid cadw'r bêl rhag cyffwrdd y daear.
*Cystadleuaeth cardiau - ysgrifennir hanner olaf y cerddi traddodiadol ar y cardiau. Un sy'n eu cofio'n dda'n ennill gan eu taflu nhw i ochr pan ddarlledir y hanner cyntaf gan y darlledwr.
Tuesday, January 3, 2012
tymor newydd
Cychwynnodd yr ysgolion a'r prifysgolion dymor newydd heddiw. Es i i lyfrgell yr ysgol i wirfoddoli hefyd. Mae gwaith mawr yn fy nisgwyl yno. Mae gan fy mhlant amserlenni newydd ac amrywiol hefyd. Mae hyn yn golygu bydda i'n brysurach fyth fel gyrrwr tacsi. Ar ben hynny eith y gŵr i Hawaii i ymweld â'i rieni ddydd Iau ac aros efo nhw am wythnos. Efallai fy mod i wedi ymlacio gormod yn ystod y gwyliau!
Monday, January 2, 2012
lewpard eira
Croeso'n ôl i Lewpard Eira! Dw i'n hynod o falch o weld o. Mae o'n gweithio'n iawn efo'n MAC Mini. Mae popeth yn gyflymach, hynny ydy cymharol gyflymach achos bod gynnon ni fand llydan araf yn y bôn. Chollais i mo nofelau Kindle na dim byd arall chwaith ond fy bookmark. Dw i wedi trefnu popeth yn barod beth bynnag.
Sunday, January 1, 2012
post cyntaf y flwyddyn
Blwyddyn Newydd Dda i bawb!
Er bod ein MAC Mini ddim yn gweithio eto (dw i'n defnyddio gliniadur y gŵr rŵan) byddwn i am gychwyn y flwyddyn newydd yn iawn gan sgrifennu fy mlog. Bydda i'n trio sgrifennu cyn amled ag y sy'n bosibl eleni.
Er bod ein MAC Mini ddim yn gweithio eto (dw i'n defnyddio gliniadur y gŵr rŵan) byddwn i am gychwyn y flwyddyn newydd yn iawn gan sgrifennu fy mlog. Bydda i'n trio sgrifennu cyn amled ag y sy'n bosibl eleni.
Subscribe to:
Posts (Atom)