Friday, February 28, 2014

siop jerrod

Mae gan fy merch hynaf ffrind a phartner busnes da o'r enw Jerrod. Mae hi'n ei alw fo'n "fy ngefell" oherwydd mai mor debyg ydyn nhw, dim ar olwg ond mewn personoliaeth. Artist gwych o gystal รข dyn busnes creadigol ydy o. Mae o a'i gariad newydd agor siop ddillad sydd yn gwerthu brand gwreiddiol, ac mae yna hyd yn oed congl i gael trin eich gwallt. Clywais fod y siop yn llwyddiannus iawn. Bydd fy merch yn symud ei stiwdio yn siop Jerrod a bydd y ddau'n cychwyn cam newydd. Dw i heb ei gyfarfod eto er fy mod i'n clywed amdano fo'n aml. (Am ryfedd nad ydw i'n nabod gefell fy merch!) 

No comments: