Monday, November 30, 2015
siopa
Brynhawn dydd Sadwrn es a'r merched i'n hoff siop ni, sef Goodwill yn Norman! Mae'n hawdd siopa yno oherwydd bod eu dillad yn cael eu trefnu yn ôl y lliwiau yn ogystal â'u maint. Prynon ni i gyd bentwr o ddillad yr un; talais ond 16 doler am 4 crys ac un sgarff. Y jôc oedd bod un o fy merched wedi dewis ffrog heb wybod mai ei chwaer hyn a'i rhoddodd i'r siop fisoedd yn ôl! (Yn ffodus na phrynodd hi'r ffrog.)
Saturday, November 28, 2015
y cinio
Aeth popeth yn dda neithiwr, a chawson ni ginio gwych. Roedd y twrci'n flasus, diolch i'r bag popty. Cafodd Reuben, ci fy merch damaid o'r twrci hefyd. Wedi gwylio fideo byr wrth fwyta'r pwdin a glanhau'r gegin efo help fy merch, des yn ôl at y gwesty efo'r gŵr. Mae'n dal i fwrw eirlaw'n gyson. Bydd y merched yn mynd i siopa prynhawn 'ma er gwaetha'r tywydd.
Friday, November 27, 2015
argyfwng
Roeddwn i a fy merch wrthi'n paratoi dwy bastai'r bore 'ma. Bydda i'n rhoi'r twrci i yn y popty nes ymlaen. Yn y cyfamser cawson ni argyfwng efo'r toiled. Diolch i weithiwr a ddaeth yn gyflym efo "neidr" enfawr fodd bynnag, mae popeth yn iawn bellach, a byddwn ni'n medru cael cinio gŵyl ddiolchgarwch mewn heddwch heno.
Thursday, November 26, 2015
cyrraedd
Dechreuodd hi fwrw'n drwm yn sydyn ar ein ffordd. Pan gyrhaeddon ni dŷ fy merch hynaf, roedd y llecyn o flaen y drws blaen dan ddŵr. Roedd rhaid cerdded drwyddo. Mae fy merch a'i gŵr yn cael cinio efo ei rieni, ac felly dan ni'n ymlacio hebddyn nhw nes iddyn nhw ddod yn ôl. Coginiais a fy merch arall swper sydyn i ni wrth ddefnyddio beth bynnag a oedd ar gael yn y gegin. Fe wnaethon ni spaghetti blasus iawn efo cig moch a llysiau yn annisgwyl. Yfory dan ni'n cael cinio mawr yma.
Wednesday, November 25, 2015
chwilio am gamgymeriad
Pan welais y llun cyntaf hwnnw, roeddwn i'n meddwl bod Blu Oscar yn chwarae tric ar ei ddarllenwyr, neu geisio gweld pwy fyddai'r cyntaf i sylwi camgymeriad yn y llun, fel gêm plant. Sut ar y ddaear gallai clochdy San Marco ac Eglwys Salute sefyll ochr yn ochr? Wedi gweld gweddill y lluniau a meddwl yn galed, roeddwn i'n sylweddoli o'r diwedd mai oddi ar Giudecca tynnodd y lluniau!
Tuesday, November 24, 2015
wythnos yr ŵyl
Gorffennais siopa'r bore 'ma cyn i siopwyr heidio i Walmart i brynu dros ginio Gŵyl Ddiolchgarwch. Prynais bethau beunyddiol yr unig fodd bynnag oherwydd fy mod i a'r teulu'n mynd i Norman i gael cinio twrci eleni eto (er mai fi a fydd yn coginio yng nghegin fy merch.) Y hi a brynodd dros y cinio. Mae pawb yn edrych ymlaen at ymgasglu yn Norman i weld ein gilydd a hefyd i fynd i siopa yn y siopau mawr yno unwaith y flwyddyn.
Monday, November 23, 2015
spaghetti western 2
Cyfarwyddwyd gan Sergio Leone (Eidalwr,) saethwyd yn Sbaen, Eidalwyr ac Almaenwyr oedd y rhan fwyaf o'r actorion er mwyn cynhyrchu'r ffilm western honno. Mae'n ffilm eithaf hir; gallai fod wedi byrrach a dweud y gwir, ond dyna fo. Cŵl iawn oedd Eastwood ac roedd o'n garedig wrth yr hen weithiwr telegraff. Mae'r gerddoriaeth gan Ennio Morricone'n wych. (Dw i'n ei chofio hi o fy mhlentyndod.) Roedd bron pob dyn yn ysmygu yn y dyddiau hynny gyda llaw!
Sunday, November 22, 2015
spaghetti western 1
Galwyd yn spaghetti western gan fod y ffilmiau western honno'n cael eu cynhyrchu gan yr Eidalwyr. Y gyfres hon oedd y mwyaf poblogaidd a llwyddiannus ymysg rhyw 600 a gynhyrchwyd rhwng 1960 a 1980, sef Dollars Trilogy. Wrth gwrs fy mod i wedi eu gweld nhw ar y teledu amser maith yn ôl yn Japan. Des i ar draws eto yn ddiweddar, a dyma weld DVD un o'r tri neithiwr - For a Few Dollars More. Dw i'n hoffi Clint Eastwood beth bynnag naill ifanc neu hen. Mae cysylltiad â'r Eidal yn ddiddorol hefyd.
Saturday, November 21, 2015
swper
Roeddwn i'n bwriadu coginio enchilada efo cig eidion (ffefryn y teulu) i swper ddoe. Sgrifennais ar y bwrdd bwydlen i'r teulu; prynais y cynhwysion; dechreuais goginio. Aeth popeth yn dda ac roedd y caserol yn ogleuo'n hyfryd. Amser swper! Dyma'r teulu'n dechrau bwyta. Wedyn, dwedodd fy mab yn betrusgar ei fod o'n meddwl mai enchilada roedd y swper i fod. Roeddwn i'n sylweddoli ar y fan a'r lle mai caserol tatws a goginiais! (ffefryn arall y teulu o leiaf)
Thursday, November 19, 2015
mae gerallt yn cytuno
Dw i'n falch iawn clywed bod Gerallt Pennant yn cytuno â fi; dwedodd o mai "Corn, Pistol a Chwip" ydy ei hoff lyfr plant. A dweud y gwir, hwn ydy fy hoff lyfr Cymraeg. Dwedais dro ar ôl tro pa mor ddiddorol ydy o. Trueni ei fod o allan o argraff. Gobeithio'n fawr y bydd o ar gael unwaith eto.
Wednesday, November 18, 2015
potlwc
Cynhaliwyd potlwc yn Ysgol Optometreg heddiw i ddathlu'r Ŵyl Ddiolchgarwch. Mae o'n ddigwyddiad mawr mae pawb yn edrych ymlaen ato bob blwyddyn. Eleni, es i a'r gŵr ynghyd ein dwy ferch. Roedd yna gynifer o bobl fel roedd yn anodd ffeindio sedd. Fe adawais nodyn o ganmoliaeth at y tair saig gorau (yn fy nhyb i.) Dw i'n llawn!
Tuesday, November 17, 2015
adnod heddiw mewn pedair iaith (y rhufeiniaid 6:23)
Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth, ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Perché il salario del peccato è la morte, ma il dono di Dio è la vita eterna in Cristo Gesù, nostro Signore.
Car le salaire du péché c'est la mort, mais le don gratuit de Dieu, c'est la vie éternelle en Jésus Christ notre Seigneur.
罪が支払う報酬は死です。しかし、神の賜物は、わたしたちの主キリスト・イエスによる永遠の命なのです。
Perché il salario del peccato è la morte, ma il dono di Dio è la vita eterna in Cristo Gesù, nostro Signore.
Car le salaire du péché c'est la mort, mais le don gratuit de Dieu, c'est la vie éternelle en Jésus Christ notre Seigneur.
罪が支払う報酬は死です。しかし、神の賜物は、わたしたちの主キリスト・イエスによる永遠の命なのです。
Monday, November 16, 2015
yr ail wers "tai chi"
Penderfynais a fy ffrind o Tsieina gynnal yr ail wers Tai Chi yn yr eglwys ar ôl gwasanaeth boreol yn hytrach na ar y clwt glas o flaen ei fflat. Pan ddechreuon ni'r wers, daeth menywod eraill ac ymuno â ni. A dyma chwech ohonon ni'n gwneud y symudiadau araf ar ôl ein tiwtor am ryw 20 munud. Roedd fy nghluniau'n brifo eto ar ôl y wers!
Sunday, November 15, 2015
"bachelors party"
Casglodd fy mab hynaf ei ffrindiau a'i frawd iau er mwyn cynnal yn hwyr bachelors party yn Texas dros y penwythnos. (Doedd gan neb amser cyn y briodas.) Y prif ddigwyddiad oedd pêl-droed mewn swigen. Dwedodd fy mab ifancaf fod yn hwyl ond dwys. Mae ei gyhyrau'n brifo'n arw heddiw! Wedi chwarae gemau eraill a mynd i dŷ bwyta, daeth yn ôl yn hwyr neithiwr efo hogyn hŷn arall.
Saturday, November 14, 2015
y ffrainc
Anfonaf gydymdeimladau at y bobl yn Ffrainc. Anogaf y gwledydd rhydd i sefyll yn gadarn gyda'n gilydd erbyn y gelynion erchyll.
Friday, November 13, 2015
gwers "tai chi"
Ces i wers Tai Chi y bore 'ma gan ddynes o Tsieina sydd yn astudio yn y brifysgol leol ers misoedd. Roedd dyna'r tro cyntaf i mi wneud sesiwn Tai Chi go iawn ers blynyddoedd. Ces i fy synnu'n sylweddoli bod fy nghyhyrau'n brifo yma ac acw er bod y symudiadau wedi bod yn araf iawn. Mae hi'n awyddus i fy helpu; gobeithio y bydda i'n gwella fy sgil.
Thursday, November 12, 2015
sbwriel
Mae gan Japan reolau llym ar gyfer sbwriel. Rhaid dilyn cyfarwyddiadau manwl cyn gosod bagiau tu allan. Mae'r rheolau'n wahanol o ddinas i'r llall ond ar y cyfan maen nhw'n anhygoel o lymach na rhai yn America. Doedd fy merch ddim yn gwybod yn dda'r rheolau a ysgrifennwyd yn Japaneg hyd yn ddiweddar. Diolch i'w thiwtor Japaneg, cafodd hi gyfarwyddiadau Saesneg ddyddiau'n ôl. Rŵan mae hi'n medru gosod ei sbwriel allan heb ansicrwydd. (Llun: cyfarwyddiadau Japaneg)
Wednesday, November 11, 2015
veterans day
Mae gan blant yr ysgolion ddiwrnod i ffwrdd heddiw i ddathlu Veterans Day. Es i a fy mab ifancaf i'r dref i weld yr orymdaith liwgar. Roedd yn braf gweld cynifer o drigolion ar hyd y stryd fawr a oedd yn dangos parch at ein veterans ni a'u teuluoedd.
Tuesday, November 10, 2015
japan - y post olaf
Wnes i ddim llawer o bethau arbennig yn Japan ond mwynheais yr wythnos. Dw i'n fodlon fy mod i wedi medru helpu fy mam. (Hyn oedd y rheswm i mi fynd yno beth bynnag.) Ar ben hynny, mwynheais gerdded i siopau, mynd ar y trên a'r bws, ymweld â'r parciau, bwyta bwyd blasus, cael bath go iawn, heb sôn am weld fy mhlant yno. Mwynheais adrodd fy hanes hefyd.
Monday, November 9, 2015
japan - "day services"
Mae fy mam yn mwynhau mynychi day services unwaith yr wythnos lle mae pobol oedrannus yn cael ymarfer corf ysgafn, ayyb tra bod nhw'n cymdeithasu. Hi ydy'r ail-hynaf ond mae'r meddwl cliriaf ganddi hi! Roedd hi eisiau i mi, fy merch a'i gŵr ymweld â hi yno i gyfarfod eu ffrindiau.
Sunday, November 8, 2015
cerdyn penblwydd
Post sydyn arall cyn i mi orffen adrodd fy hanes yn Japan - fe wnaeth fy mhlant gardiau penblwydd i mi. Hwn ydy un ohonyn nhw a wnaethwyd gan y mab ifancaf. Postiais hwn ar dudalen Facebook Alberto, a ches i nifer o "hoffi" arno fo.
Saturday, November 7, 2015
japan - miss hepburn
Wrth gerdded o gwmpas y parc, des i ar draws gwely blodau hydrangea. (Doedd dim blodau wrth gwrs gan nad oedd y tymor.) Daliodd un o'r enwau fy sylw - Miss Hepburn. Mae fy merch yn hoff iawn o Audrey Hepburn digwydd bod, a dyma dynnu llun drosti hi. Wedi googlo gartref fodd bynnag, ces i wybod mai ar ôl Katharin Hepburn a enwyd honno!
Friday, November 6, 2015
japan - draig
Roedd yn ddistaw o gwmpas y gysegrfa fach. Cerddais i fyny'r grisiau pren i weld y cerfiadau dan y bondo. Roedd yna ddraig bren a gerfiwyd yn fedrus. Mae gan yr Eidal cerfiadau maen mawreddog; mae gan Japan gerfiadau pren cystal â nhw, mewn modd gwahanol.
Thursday, November 5, 2015
japan - ginkgo
Mae yna goed ginkgo ar diroedd cysegrfeydd yn Japan am ryw reswm. Mae gen i atgofion plentyndod sydd yn ymwneud â'r coed hynny. Hen iawn ydy'r ginkgo hynod o dal ger Cysegrfa Yakushi, mor hen fel nad ydy neb yn gwybod ei hoed yn ôl y bwrdd gwybodaeth. Safai'r gysegrfa fach yn ddistaw'n wynebu'r goeden honno.
Wednesday, November 4, 2015
japan - parc yakushi-ike
Tuesday, November 3, 2015
japan - cysegrfa sugawara
Wrth gerdded ar hyd y lôn tuag at y parc, gwelais sawl dyn hŷn yn sgwrsio'n cario camerau efo lensys hir. Edrychon nhw fel dynion lleol sydd yn nabod yr ardal. Dyma ofyn iddyn nhw sut i gyrraedd y parc. Roedden nhw'n glên fy nghyfeirio ato. Cyn mynd i'r parc fodd bynnag, roeddwn i eisiau gweld Cysegrfa Sugawara roeddwn i'n pasio'n aml oddi ar y bws. Roedd y lle'n ddistaw iawn. Welais neb o gwmpas.
Monday, November 2, 2015
japan - mynd am dro (hir)
Peth arall dw i'n hoffi ei wneud yn Japan - cerdded ym mhob man yn ddiogel (rhaid bod yn ofalus am draffig weithiau wrth gwrs.) Pan fod gen i amser rhydd, dechreuais gerdded ar y lôn braf ar hyd nant ger fflat fy mam. Doedd gen i ddim syniad lle i fynd ar gychwyn, ond eisiau mynd tuag at y Gogledd oherwydd fy mod i wedi cerdded tua'r De'r tro arall. Yn sydyn, cofiais fod yna barc enwog yn yr ardal dw i erioed wedi bod ynddo. Y dyma gyfeirio ato fo. (Llun: Nant Onda ger fflat Mam)
Sunday, November 1, 2015
japan - bwyd
Mae bwyd yn ardderchog yn Japan. Does dim dwywaith amdano. Mae'r archfarchnadoedd a siopau'n gorlifo efo bwyd ffres heb sôn am ddi-ri o dai bwyta gwych ym mhob man. Er bod gan fy mam 93 oed, mae hi'n dal i goginio wrth ddefnyddio cynnyrch ffres felly. Fe wnaeth hi baratoi un bore frecwast syml o wy efo melynwy oren, salad, bara wedi'i lenwi efo rhesin, taten felys felys (piws.) Roedd yn hynod o flasus!
Subscribe to:
Posts (Atom)