Friday, September 30, 2016
damwain
Dwedodd Jane mai damwain oedd. Dw i'n falch, nid ei bod hi wedi cael damwain, ond nid chafodd hi ei tharo'n fwriadol. Mae hi'n cael nifer o byst bygythiol drwy'r amser oherwydd ei bod hi'n cyhoeddi beth sydd yn digwydd o wirioneddol yn Israel. Mae hi'n brifo beth bynnag; gobeithio y bydd hi'n gwella'n fuan.
Thursday, September 29, 2016
anaf

Wednesday, September 28, 2016
dysgu dwy iaith
Atebodd Johan yn ei fideo gwestiwn gan ddysgwyr Ffrangeg. "Ydy hi'n bosib dysgu dwy iaith ar yr un pryd?" Ydy, os oes gynnoch chi ddigon o amser, ac os ydy'r ddwy iaith yn wahanol efo'i gilydd, oedd ei ateb yn y bôn. Fel arall, mae'n well i chi ganolbwyntio ar un. Cytuno'n llwyr. Dw i'n dysgu Ffrangeg a Hebraeg rŵan; nid oherwydd fy mod i wedi penderfynu dysgu dwy iaith ar yr un pryd; dw i'n dysgu Ffrangeg am sbel a dechreuais ddysgu Hebraeg yn ddiweddar. (Dw i'n adolygu'r Gymraeg a'r Eidaleg hefyd.) Mae'r ddwy iaith hyn mor wahanol i'w gilydd fel does dim siawns i'w cymysgu nhw. Ac mae gen i amser, wedi i'r plant i gyd ac eithrio'r mab ifancaf adael cartref.
Tuesday, September 27, 2016
tric oklahoma
Monday, September 26, 2016
croen banana
Wedi darllen sawl erthygl, dw i'n bwyta croen banana bellach. Ddim y croen melyn caled ond y rhan wen meddal tu mewn. (Efallai bod y croen melyn yn faethlon, ond dw i ddim eisiau ymdrechi cymaint â hynny i fod yn iach.) Mae'n hawdd; dim ond llwy sydd angen i grafu'r croen i gasglu'r rhan wen. Yna, bydda i'n ei stwnshio ynghyd â'r ffrwyth ac iogwrt efo ychydig o sinamon. Blasus.
Saturday, September 24, 2016
11 pibydd
Fel arfer bydda i'n cael trafferth llenwi rhestr ddymuniadau Eleven Pipers am anrhegion Nadolig. Eleni, fodd bynnag, mae gen i syniad gwych. Ar wahân i win gwyn a biscotti, bydda i'n gofyn am fwyd neu bethau eraill a wnaed yn Israel. Mae yna amrywiaeth o gynhyrchion ar gael ar y we. Bydda i'n medru mwynhau cynhyrchion o ansawdd uchel, cefnogi Israel a rhwystro BDS ar yr un pryd.
Friday, September 23, 2016
celf sbwriel

Thursday, September 22, 2016
ymarfer darllen
Dw i newydd brynu potel thermos i fy mab sydd yn rhedeg efo'i dîm cross country bob dydd yn y tywydd poeth. Fel arfer mae cyfarwyddiadau'n cael eu hysgrifennu yn Saesneg a Sbaeneg. Mae hyn, fodd bynnag, yn dod yn Ffrangeg yn ychwanegol. Dechreuais eu darllen. Mae'n braf oherwydd bod yna Saesneg wrth ochr os oes geiriau Ffrangeg newydd.
Wednesday, September 21, 2016
penblwydd yn 61oed

Tuesday, September 20, 2016
arogl cryf
Dw i a'r teulu'n dod ar draws brown recluse yn aml yn ddiweddar, yn y tŷ dw i'n meddwl. Dan ni'n glên wrth jumping spiders gan eu bod nhw'n dal pryfed drwg, ond rhaid lladd brown recluse ar unwaith. Wedi i'r mab golli un yn yr ystafell sbâr, roedd angen trin yno, ond doeddwn i ddim eisiau defnyddio cemegol cryf. Dyma fynd ar y we a ffeindio amrywiaeth o ddulliau naturiol i gael gwared arnyn nhw. Dewisais glof, pupur, olew ewcalyptws a the mintys. Gobeithio y byddan nhw'n gweithio. Mae'r ystafell yn arogli'n gryf iawn!
Monday, September 19, 2016
y foment (arall)
Saturday, September 17, 2016
trump yn dod
Mae Mr. Trump yn dod i Norman, Oklahoma (y dref mae fy merch hynaf yn byw ynddi) prynhawn 'ma i fynychu achlysur i godi pres, am 4:30 i fod yn fanwl. Bydd o i fod yn Houston, Texas am 1:00, ac yn Colorado Spring am 7:30 heno. Bydd o mewn cartref preifat ger y brifysgol. Bydd yna gêm pêl-droed Americanaidd yn y dref hefyd. Mae'r heddlu druan yn gweithio'n oramser ers ddoe i sicrhau'r diogelwch.
Friday, September 16, 2016
rhag eich cywilydd

Thursday, September 15, 2016
ffarwelio
Wednesday, September 14, 2016
archeb arall

Tuesday, September 13, 2016
stryd newydd
Monday, September 12, 2016
ras arall
Saturday, September 10, 2016
her newydd i johan

Friday, September 9, 2016
blas o israel
Thursday, September 8, 2016
yr 20fed penblwydd
Penblwydd fy merch ifancaf ydy hi heddiw. Mae hi'n dysgu mewn prifysgol ym Missouri ers mis Ionawr eleni. Dechreuodd hi theatr (ei hoff wers) y tymor yma ynghyd â dawnsio (bale, tap.) Roedd hi'n gweithio yn y gegin yn ystod y tymor cyntaf er mwyn talu am y ffi, ond cafodd hi "ddyrchafiad," ac mae hi'n cael gweithio yn y theatr bellach. Gobeithio y ceith ddiwrnod bendithiol heddiw.
Wednesday, September 7, 2016
y 27ain penblwydd
Penblwydd fy mab hynaf ydy hi heddiw. Dyn ifanc hynod o glên a doniol ydy o. Wedi gweithio fel peiriannydd i gwmni o Texas am sawl blwyddyn, mae o'n priodi'n hapus ac yn dad i fabi bach dau fis oed (sydd yn edrych yn union fel ei dad) bellach. Falch iawn o ddarllen neges hardd gan ei wraig a oedd yn ddiolchgar dros ben wrtho fo. Dwedodd o fydden nhw'n cael parti bach heno, a newid cewyn neu ddau, siŵr iawn!
Tuesday, September 6, 2016
y 23ain penblwydd
Penblwydd fy nhrydedd ferch ydy hi heddiw a hithau oddi cartref. Roedd nifer o ddymuniadau gorau iddi ar Facebook gan gynnwys neges Gymraeg gan ei chyn athrawes o Brifysgol Abertawe. Mae fy merch newydd ddechrau gweithio fel tiwtor Saesneg yn Japan. Dwedodd hi fod y gwersi wedi mynd yn llawer gwell na'r disgwyl. Bydd hi'n dysgu rhwng un a chwe dosbarth o wahanol oedran a safon bob dydd.
Monday, September 5, 2016
Saturday, September 3, 2016
mae jane yn ôl

Friday, September 2, 2016
ras cross country
Thursday, September 1, 2016
cerdded yn y glaw
Roedd hi'n bygwth glaw pan adawais y tŷ mewn hanner tywyllwch i gerdded y bore 'ma. Dim ots. Roeddwn i eisiau gwneud fy ymarfer corff boreol. Aeth heb ymbarél. Daeth y glaw pan gyrhaeddais y goedwig. Roedd yn bwrw braidd yn drwm am sbel efo mellt neu ddau i atalnodi'r awyr. Dim ots. Roeddwn i'n dal i gerdded yn teimlo'n hynod o braf yn y glaw ffres. Roedd y glaswellt brown yn edrych yn ddiolchgar. Rhaid bod yr anifeiliaid gwyllt yn ddiolchgar hefyd.
Subscribe to:
Posts (Atom)