Monday, January 20, 2020

parti yn y nefoedd

Roedd rhaid bod yna barti mawr yn y nefoedd ymysg yr angylion ddoe. Penderfynodd Keith, un o'r ffrindiau newydd, fwrw ymlaen i gyhoeddi ei ffydd yn Iesu Grist gan gael ei fedyddio (yn y cafn buwch arferol.) Roedd o'n arwain bywyd anodd, llawn o gyffuriau, mewn ac allan o garchar am flynyddoedd, ond wedi dod adref o'r diwedd at Dad Caredig drwy ei unig Fab. Roedd o'n hapus dros ben, ynghyd รข'r eglwys.

No comments: