Wednesday, November 28, 2007

atgofion o gymru 17


Mi gyrhaeddes i Aberystwyth heb drafferth. Roedd fy ysfafell yn Savanna House yn y dre'n gyffyrddus efo gwely dwbwl, ystafell ymolchi, desg, teledu (doedd gen i ddim amser i wilio.) Roedd teulu'n rhedeg y llety. Mi nes i ofyn i'r wraig ydy hi'n siarad Cymraeg. Ond na.

I'r Llyfrgell Genedlaethol es i'n syth achos bod gen i apwyntiad efo Dogfael. Roedd o'n fy nhywys i drwy'r llyfrgell, storfeydd llawn o luniau a'i swyddfa hefyd. Mi fedrwn i gael cipolwg o drysorau'r genedl gan gynnwys llawysgrif wreiddiol Kate Roberts (Traed Mewn Cyffion.) Profiad arbennig oedd hynny.

Trefnodd Dogfael i mi gyfarfod ei ffrindiau, NMD a RO yn y dre. Roedd pawb yn glên iawn siarad â fi yn Gymraeg. Ond am ryw reswm neu'i gilydd, doedd fy ymennydd ddim yn gweithio'n dda ac dôn i ddim yn deall neu siarad Cymraeg o gwbl bron. Rôn i'n teimlo'n ofnadwy achos bod nhw yno i dreilio'u hamser gwerthfawr er mwy i mi gael ymarfar fy Nghymraeg llafar. Mi nes i ymddiheuro a gadael.

2 comments:

neil wyn said...

Paid â digalonni, weithiau dwi'n cael fy siomi gan arafwch fy ymenydd (neu'r darn ohono sy'n prosesi ieithoedd!), ac mae'n gallu mynd â fi lawr am cwpl o ddyddiau, yn enwedig gan ystyried pa mor brin ydy'r cyfleoedd siarad yr iaith. Ond pob tro mi ddaw profiad da i godi'r calon unwaith 'to,

Hwyl, Neil

Emma Reese said...

Diolch i ti, Neil am dy eiriau clên.