Saturday, November 10, 2007

atgofion o gymru 4

Mi es i a'm ffrind i sesiwn sgwrs yn y llyfrgell leol yn Wrecsam. Roedd 'na ryw ddeg o ddysgwyr efo gwahanol lefelau. Roedd rhai gan gynnwys fi fy hun yn cael hi'n anodd dweud popeth yn Gymraeg a'r lleill yn rhugl. AW oedd un o'r dysgwyr rhugl. Roedd hi wedi dysgu Cymraeg i helpu ei phlant sy'n mynd i ysgol Gymraeg. Mae hi'n dysgu dosbarth i oedolion bellach. JH oedd dysgwr rhugl arall sy'n dysgu Ffrangeg hefyd. Dw i wedi eu nabod nhw drwy'r rhyngrwyd ac roedd yn braf eu cyfarfod nhw o'r diwedd. Roedd pawb yn gyfeillgar ac yn glĂȘn.

Roedd y sesiwn yn para am fwy na ddwy awr. Ro'n i braidd yn flinedig ar y diwedd ond yn falch o gael cyfle i siarad Cymraeg gymaint.

2 comments:

Corndolly said...

Dw i'n cofio'r sesiwn yn y llyfrgell. Roedd o'n llawer o hwyl ond fel ti, ron i wedi blino ar ol y sesiwn. Ond roedd o'n gyfle da iawn i ymarfer siarad.

Emma Reese said...

I'r dim!