Monday, November 5, 2007

pwy sy'n siarad japaneg?

Ar ôl darllen blog Dogfael heddiw, mi nes i benderfynu gwneud peth tebyg.

http://blogdogfael.org/2007/11/05/pwy-syn-siarad-iseldireg-2/

Hynny ydy, gwneud rhesr o siaradwyr Cymraeg sy'n medru Japaneg. Ond a dweud y gwir, dw i ddim ond yn nabod dau, un Cymro Cymraeg a'r llall, Saes sy wedi dysgu Cymraeg mewn Prifysgol. Mae'r Saes yn medru sgwennu llythrennau Japaneg hyd yn oed. (Dw i ddim yn gwybod eu safon Japaneg lafar.) Dw i heb glywed oddi wrthyn nhw ers misoedd. Felly s'gen i ddim syniad sut maen nhw.

O, oedd bron i mi anghofio un arall; Simon Ager. Mae o'n siarad llawer o ieithoedd yn ogystal â Chymraeg a Japaneg.

http://www.omniglot.com/aboutme.htm

Oes 'na unrhywun sy'n siarad neu dysgu Japaneg? Mi faswn i'n hapus rhoi cymorth i chi (ymarfer sgwennu neu siarad ar Skype!)

8 comments:

Dogfael said...

Maen nhw'n dysgu Siapanaeg yn Ysgol Uwchradd Penweddig yma yn Aberystwyth ac mae nifer o'r disgyblion wedi bod i Japan i ymarfer yr iaith.

Yr unig Gymro roeddwn i'n ei adnabod oedd yn siarad Siapanaeg oedd y diweddar Laurence John. Roedd e wedi byw yn Japan am beth amser ac wedi priodi yno. Fe ddaeth yn ôl i Gymru i fyw yn ardal Abertawe dwi'n credu. Ond bu farw rhyw flwyddyn neu ddwy yn ôl.

Emma Reese said...

Ydyn nhw'n wir?! Na syndod mawr.

Mi nes i brynu llyfr am Japan gan Laurence John (Lorens Gwyr.) Mae popeth ddwedodd o yn y llyfr yn gywir.

Corndolly said...

Hi Emma, Oedd Laurence John yr un dyn a oedd yn dweud wrth dysgwyr 'Darllenwch bob tudalen yn uchel, o leia tair gwaith'? Os oedd o, dw i'n cofio i ti siarad amdano fo.

Nwdls said...

Mi geisiais ddysgu llythrennau Katakana unwaith, ond doedd gen i ddim yr ymroddiad ar y pryd. Ffrangeg a Siapaneg oedd fy newisiadau cyntaf wrth fynd i'r Brifysgol, ond methais a chyrraedd y graddau angenrheidiol, ac fe es i astudio maes arall yn lle.

Mae ffrind i fi yn siarad rhywfaint dwi'n credu.

Rhys Wynne said...

Yn y llyfr Travels in an Old Tongue, mae'r awdures (Americanes - o ble arall!) yn teithio'r byd yn ceisio darganfod siaradwyr Cymraeg yn y llefydd mwyaf annisgwyl. Bu hi yn Siapan, ble cwrddodd a grŵp oedd yn dysgu CYmraeg, cymysgedd o bobl o Siapan a 'ex-pats'. Dwi'n credu bod ambell i brifysgol yn Siapan yn dysgu Cymraeg fel rhan o radd mewn astudiaethau Celtaidd.

Bues yn dilyn blog Cymro o'r enw Osian Llwyd a fu'n byw yn Siapan yn dysgu Saesneg. Yn anffodus, oherwydd y gwasaneth blogio a ddefnyddiwyd, mae'n rhaid talu i ddarllen yr hen gofnodion!
http://www.getjealous.com/osianllwyd

Emma Reese said...

Corndolly, na, dyn arall oedd o. Roedd yn rhugl yn Japaneg ond doedd o ddim yn siarad Cymraeg.

Nwdls, mae'n syndod i mi glywed bod 'na gwrs Japaneg ym Mhrifysgol Cymru.

Rhys, mae'r llyfr na'n swnio'n ddiddorol. Dw i wedi clywed am y brifysgol yn Japan yn dysgu Cymraeg. Mae 'na gymdeithas Gymraeg yn Japan hefyd. Mi fasai hi'n ddifyr iawn darllen blog Osian Llwyd ond dw i ddim eisiau talu!

Rhys Wynne said...

Un arall?

Emma Reese said...

Diolch i ti, Rys am y ddolen. Mae'n ddiddorol bod hi (Sayaka) wedi dewis enw Japaneaidd ac fi wedi dewis un Cymreig. :)