Sunday, December 30, 2007

digon o ddeunydd dysgu

Dw i mor hapus bod gen i ddigon o ddeunydd dysgu Cymraeg ar hyn o bryd yn ogystal â Radio Cymru, sef y deg nofel Cymraeg a Chwrs Pellach.

Uned 3 (gorffennaf syml) dw i'n gweithio arni hi rwan. Mi ddylwn i fod wedi meistroli'r pedair berf afreolaidd erbyn hyn. Mi fedra i sgwennu rhywsut ond maen nhw'n dal i fy nrysu pan dw i'n siarad. Felly mae'n gyfle da i mi adolygu yn enwedig efo'r CD.

Mae'r titwtor ar ei gwyliau tan y 7ed o fis Ionawr. Does dim brys arna i ond mae'n rhy hwyl i beidio.

Thursday, December 27, 2007

cymry yn uda

Mae na raglen Radio Cymru ddiddorol yr wythnos ma, sef JPJ yn yr UDA. (Does dim angen "yr" o blaen "UDA", nag oes?) Mae John yn holi rhai Cymry sy'n byw yn UDA gan gynnwys Carwyn Edwards a dysgwyr o Gynghrair Cymreig Arizona.

http://www.bbc.co.uk/radio/aod/mainframe.shtml?http://www.bbc.co.uk/radio/aod/cymru_promo.shtml

Dw i wedi sylwi bod John yn siarad yn araf ac yn glir pan siaradodd o â'r dysgwyr! Ac rôn i'n ddeall yn dda!

Wednesday, December 26, 2007

diwrnod hyfryd

Mi ges i ddiwrnod hyfryd ddoe efo'r teulu yn agor anrhegion, cael cinio Nadolig a gwilio The Nativity.

Dw i'n gyffro i gyd am y naw lyfr. Maen nhw'n edrych yn ddiddorol iawn. Efallai na i ddarllen tipyn o bopeth yr un pryd!

Roedd rhaid i mi ddechrau pobi 7:30 yn y bore ddoe am mod i wedi anghofio gwneud pwdin Nadolig! Mi ges i rysait Cymreig oddi wrth ffrind yn Abertawe dwy flynedd yn ôl. Hen rysait ydy hi (1930.) Roedd y pwdin yn flasus ond mi naeth hi lynu wrth y ddysgl a thorri'n ddau!

Mi neith fy merch a'i dyweddiwr fynd yn ôl heddiw. Dan ni'n edrych ymlaen at eu priodas ym mis Mehefin nesa efallai.

Monday, December 24, 2007

babi bach mewn ystabl

Mi ddes i a'r teulu adre'n ddiogel p'nawn ma wedi treulio amser hyfryd efo fy merch a'i dyweddiwr. Mi ddôn nhw yfory i ddathlu'r Nadolig efo ni.

Mi aethon ni i'r eglwys am wasanaeth Noswyl Nadolig heno. Roedd na gymaint o ganu a drama wreiddiol gan y bobl ifanc yn lle pregethu. Roedd hi'n arbennig o dda. Mi naeth hi wneud i mi feddwl unwaith eto am yr hyn mor anhygoel bod Duw Hollalluog wedi cael ei eni fel babi bach diymadferth mewn ystabl droston ni.

Sunday, December 23, 2007

diwrnod hir

Mi naethon ni gyrraedd y ganolfan siopa heb drafferth ddoe. Pan welon ni fy merch a'i chariad, dyma hi'n dangos ei llaw chwith i ni i gyd. Sgleiniodd ar ei bys modrwy ddiemwnt bach! Gofynodd ei chariad iddi ei briodi echnos. Doedd hyn ddim yn syndod o gwbl achos bod ni wedi gwybod bod nhw isio priodi. Cwestiwn oedd pryd basen nhw'n penderfynu.

Roedd y plant hyn yn awchus iawn i fynd i siopa, ond doedd gen i ddim diddordeb o gwbl. Mi nes i eistedd yn nghadair gyffyrddus a darllen llyfr ges i oddi wrth Dogfael sef O Drelew i Dre-fach gan Marged Lloyd Jones. Hanes Cymry allfudodd i Batagonia ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bumtheg oedd o. Dw i erioed wedi darllen am y hanes yn ddwys ond mae'n ddiddorol iawn. Mi ga i wybod amdano fo trwy'r llyfr, dw i'n siwr.

Roedd y ganolfan yn llawn o bobl ac roedd hi'n cymryd mwy na hanner awr i fynd allan o'r maes parcio. Wedyn, cawson i swper mewn bwyty Mecsicanaidd. Roedd popeth yn flusus iawn.

Ar ôl cyrraedd fflat fy merch, roedd yn hir iawn nes i mi a'r merched fynd i'r gwely. Roedd rhaid i ni glywed y malylion pan ofynodd o iddi hi ei briodi. Mi aeth y gwr a'r bechgyn i dy^ dyweddiwr fy merch.

Friday, December 21, 2007

cig byfflo

Mi ges i a'r gwr ein gwahoddiad i fwyta mewn bwyty gan y dynion Japaneaidd neithiwr. Bwyty cig byfflo ydy o ac mae'n eitha enwog yn y dre. Prin bod ni'n cael mynd yno achos fod o'n uwch na'n cyllideb ni.

Roedd y bwyty bron yn llawn. Mi gaethnon ni fwrdd clyd yn ymyl y lle tân. Mi ges i stecen fach, salad, ffa, rhôl a hanner pastai afal a mwyaren. Roedd popeth yn flasus iawn.

------

Na i a'r teulu fynd i ymweld â'm merch hyna dros y Sul. Mae hi'n byw yn ninas fawr tua 300 o filltiroedd i ffwrdd. Dan ni'n mynd i wneud y gwaith siopa Nadolig mewn canolfan siopa yno p'nawn Sadrwn. Mi awn ni i eglwys fy merch bore wedyn. Dan ni ddim yn siwr beth i'w neud p'nawn Sul. Mi ddown ni adre p'nawn Noswyl Nadolig.

Thursday, December 20, 2007

uned 1 yn ol

Mi ges i Unel 1 yn ôl o'r diwedd wedi i'r tiwtor ei farcio. Mae Uned 1 braidd yn hawdd ond dw i isio gwneud yn siwr mod i wedi dysgu'n iawn. Wedi'r cwbl, dw i wedi dysgu ar ben fy hun. Mi nes i'r holl gwestiynau i fynd efo Bywyd Blodwen Jones ar ddamwain. Roedd 'na 13 o dudalennau.

Roedd bron popeth yn iawn ond dôn i ddim yn gwybod bod gan 'dwyn' fôn afreolaidd - dyg. Felly dim 'dwynwyd' ond 'dygwyd.'

Mi nes i orffen Uned 2 a'i yrru fo at y tiwtor yr wythnos diwetha. Rwan, mae gen i Uned 3 (y gorffennol syml.) Rhaid i mi atal fy hun rhag gwneud gormod. Mae'r tiwtor ar ei gwyliau tan y 7ed o fis Ionawr. Dw i'n bwriadu gweneud gwaith siarad y tro ma yn lle gwaith sgwennu paragraff. Na i yrru tâp caset ati hi.

Mae'n wych bod gen i diwtor!

Wednesday, December 19, 2007

gwesteion i ginio

Mi ddaeth ddau ddyn o'r cwmni yn Japan i wneud y gwaith ymchwilio efo fy ngwr yr wythnos ma. Mi naethon ni eu gwahodd nhw i gael cinio bach efo ni heddiw. Coginies i gyri (eto.) Roedden nhw'n hapus gan eu bod nhw wedi bwyta gormod o gig a bara ers iddyn nhw gyrraedd. Roedden nhw'n ysu am reis plaen. (Mae'r rhan fwya o'r bobl yn Japan yn bwyta reis plaen bob dydd.)

Dw i'n teimlo braidd yn nerfus pan dw i'n coginio dros bobl Japaneaidd oedrannus achos dw i ddim yn coginio bwyd Japaneaidd yn ddilys. O wel, mi nes i fy ngorau.

Tuesday, December 18, 2007

y ddraig goch ar fy nghar i


Mi nes i dderbyn sticer bymper oddi wrth Corndolly ddoe. Dyma fy nghar i! Mi es i i Wal-Mart ynddo fo p'nawn ma.

Sunday, December 16, 2007

radio cymru

Dw i'n hoffi gwrando ar Radio Cymru bob dydd er mod i ddim yn deall popeth. Weithiau dw i ddim yn deall dim byd ar wahan i rai geiriau yma ac acw. Mae'n dibynnu ar raglenni. Dw i'n deall newyddion mwy na rhaglenni eraill. Dyma'r rhestr raglenni dw i'n gwrado arnyn nhw:

Post Cyntaf
Taro'r Post
Bwrw Golwg
Dal i Gredu
Oedfa'r Bore
Clasuron
Beti a'i Phobol
Manylu
Papur a Phaned
John ac Alun

Fy hoff gyflwynydd ydy Dyfan Tudur. Dw i wrth fy modd yn gwrando ar ei Gymraeg. Ac mae 'na ohefydd dw i'n chlywed o dro i dro. O, mae ei hacen ogleddol mor ddeniadol. Dw i isio siarad yn union fel hi. Dw i'n meddwl mai Carol Owen ydy'r enw, ond dw i ddim yn hollol sicr. Roedd yn gofyn i hogan fach pam oedd hi'n hoffi stori genedigaeth Iesu ym Mwrw Golwg.

Saturday, December 15, 2007

miss p i swper

Mi gaethon ni Miss P, tiwtor Ffrangeg fy merch i swper heno. Cenades yn Ffrainc am 38 mlynedd oedd hi. Roedd hi'n gweithio ger Paris yn bennaf ac mae hi newydd ymddeol. Roedd yn hwyl clywed ei hanes. Pan oedd hi'n dysgu Ffrangeg yn Ffrainc cyn cychwyn gwaith yr Efengyl, roedd hi'n ceisio dysgu'r ynganiad yn ofalus. Mae hi'n swnio'n ardderchog (dw i'n meddwl.) Dydy hi ddim yn nabod neb sy'n siarad Ffrangeg yn y dre ma. Felly mae hi'n siarad yr iaith ar Skype.

Mae'r tywydd wedi bod yn arw. 25F(-5C) ydy hi rwan. Gobeithio na ddoith storm iâ.

Friday, December 14, 2007

sgwennu cymru yn japaneg

Mae 'na dair ffordd wahanol i sgwennu yn Japaneg. Un mwya anodd ydy defnyddio 'kanji' - llythrennau Tseineaidd. Mae gan pob llythyren ystyr. Fel arfer maen nhw'n sgwennu ウェールズ ar ôl 'Wales' gan ddefnyddio 'katakana' - un o'r ddwy ffyrdd haws. Dw i wedi gweld bod rhai pobl yn ceisio sgwennu 'Cymru' yn 'kanji'.

神夢里 - bro lle mae duwiau yn breuddwydio ynddi

Mae gen i syniad gwell:

冠 - coron

Mae hon yn gryno ac dw i'n hoffi ystyr y llythyren. Dw i'n siwr bod neb arall wedi'i defnyddio hi am Gymru.

Thursday, December 13, 2007

y tywysog charles

Mi nes i glywed y Tywysog Charles yn darllen ei neges Nadolig yn Gymraeg. Ddim yn ddrwg! Ond hoffwn i fod wedi clywed yr holl neges. Well gen i beidio dadlau ydy hi'n iawn iddo brynu ty yng Nghymru neu beidio. Ond chwarae teg iddo; rhaid i mi gymerydwyo fod o wedi gwneud ymdrechu dysgu Cymraeg.

Tuesday, December 11, 2007

llanerchymedd

Roedd Llanerchymedd, pentre bach yn Ynys Môn yn y newyddion yn ddiweddar. Er roedd o'n eitha trist, naeth o fy atgoffa i mod i wedi ceisio yngannu'r enw drosodd a throsodd o'r blaen er mwyn ymarfer y tri catsain Gymraeg, sef ll, r, ch.

Monday, December 10, 2007

sgwrs efo simon

Mi ges i lawer o hwyl adrodd fy siwrnau yng Nghymru ac dw i'n teimlo tipyn yn drust mod i wedi gorffen. Ond mae 'na amser i bopeth dan y nef.

Siarades i Gymraeg a Japaneg ar Skype bore ma. Mi ges i sgwrs fach efo Simon Agar, y dyn ieithoedd.

http://www.omniglot.com/

Roedd o'n dysgu Cymraeg yn yr ysgol haf yn Llanbed tra ô'n i yn un ym Mangor ym mis Mehefin. Mae ei Japaneg yn dda er fod o'n gwadu. Dw i ddim yn gwybod sut mae un yn medru dysgu nifer o ieithoedd ar un pryd. Does dim lle ar ôl yn fy mhen i ddysgu ieithoedd eraill!

Gofynes i ba iaith ydy'i ffefryn.
"Cymraeg"
Da iawn, Simon! ^_^

Sunday, December 9, 2007

atgofion o gymru 27


Mi aeth popeth yn iawn ar y siwrnau adre. Dôn i ddim yn gwybod am y trafferth enfawr yn Heathrow oni bai bod Dogfael wedi rhoi gwybod i mi wedyn.

Mi ges i fynd i Gymru am y tro cynta erioed. Profiad arfennig oedd y siwrnau. Mi nes i gyfarfod llawer o bobl glên. Roedd y mynyddoedd a chymoedd yn braf, ond mae'r bobl fel na sy'n fwya cofiadwy i mi.

Gobeithio ca i fynd eto. Yn y cyfamser, dw i'n dal i ddysgu Cymraeg. Ac dw i'n mwynhau!

Saturday, December 8, 2007

atgofion o gymru 26

Mi nes i ddal y trên o Gaerdydd bore wedyn. Y cynllun oedd mynd i Orsaf Paddington a dal y Tiwb. Basai rhaid i mi newid eto yng Ngorsaf Green Park cyn cyrraedd Heathrow.

Rôn i'n edrych ar fap Prydain yn y trên llawn. "I live here," meddai'r dyn eisteddodd yn fy ymyl wrth bointio ar Gaerfyrddin. "Dach chi'n siarad Cymraeg?" gofynes i. Ydy! Cymro Cymraeg o Sir Caerfyrddin!! Prynodd o gar Heddlu Los Angeles ar y we a mynd i'w nôl yn Llundain. Ac roedd ei ferch yn dysgu Japaneg yn Japan! Roedd yn gwybod tipyn o eiriau Japaneg ac yn gofyn i mi gwestiynau. Mi nes i ddysgu Japaneg drwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cynta erioed!

Wrth i ni nesau at Orsaf Redding, dwedodd o bod 'na fws uniongyrchol o Redding i Heathrow. Basai fo'n llawer cyfleus na fy nghynllun gwreiddiol. Penderfynes i ddal y bws. Roedd rhaid i mi gasglu popeth, ddweud "diolch yn fawr" wrtho a gadael y trên ar frys. Doedd gen i ddim amser i ofyn ei enw!

Friday, December 7, 2007

atgofion o gymru 25


Rôn i'n cerdded yn 'Sofia Garden' cyn mynd i Fochyn Du i gyfarfod ffrind rhyngrwyd arall. Roedd 'na lawer o flodau braf yma ac acw gan gynnwys 'hydrangea.' Maen nhw'n blodeuo'n llu yn Japan yn ystod tymor y glaw ym mis Mehefin.

Pan gyrhaeddes i'r dafarn am chwech o'r gloch, roedd y lle'n llawn dop. Doedd 'na ddim lle i sefyll hyd yn oed. Ar ôl aros am hanner awr heb weld y ffrind, mi nes i adael heb fwyd na diod. Prynes i swper mewn siop fach ger fy llety a'i fwyta yn fy stafell. Clywes i wedyn fod o a'i wraig yn dwad i'r dafarn yn llawer hwyrach na fi.

Thursday, December 6, 2007

atgofion o gymru 24


Daeth Arfon yn ei gar i'm casglu o'r orsaf. Mae o a'i deulu'n byw mewn ty teras twt yn y faestref. Mi nes i gyfarfod ei wraig ac eu merch fach arall. Dysgwraig ydy gwraig Arfon, ond mae hi'n hollol rugl bellach. Mae'r merched yn mynd i'r ysgol Gymraeg a dim ond Cymraeg maen nhw'n siarad yn y ty. BENDIGEDIG!! Naeth hi baratoi cinio blasus iawn.

Aeth yr holl deulu â fi i siop lyfrau Cymraeg tua milltir i ffwrdd ar ôl cinio. Peidioedd y glaw am sbel, felly pederfynon ni gerdded. Dymunol iawn oedd y siwrnau fer. Mi brynes i "Y Ffordd Beryglus" gan T.Llew Jones.

Roedd pawb mor gyfeillgar ac yn siarad Cymraeg drwy'r amser. Mi ges i amser anhygoel o dda. Gweddiodd Arfon yn Gymraeg drosta i a dros fy nheulu cyn i mi fynd.

Wednesday, December 5, 2007

atgofion o gymru 23


Fedrwn i ddim cwyno bod y llety'n ofnadwy. Dim ond £13 y nos oedd o. Roedd rhywun yn chwarae cerddoriaeth swnllyd drwy'r nos tan chwech yn y bore wedyn. Rôn i'n ddiogel a ches i ddigon o ddwr poeth am gawod o leia.

Glaw glaw a mwy o law bore trannoeth. Rôn i'n gobeithio mynd i Sain Ffagan ond nes i roi gorau i'r syniad ar ôl colli'r bws cynnar. Yn lle, es i i siopa am anrhegion i'r teulu nes i mi ymweld ag Arfon a'i deulu.

Mi ges i hyd i siop Bluebirds. Roedd y rhan fwya o'r pethau ar sêl. Prynes i grysau (£10 yr un) i'r gwr a'r mab hyna sy'n hoffi pêl-droed. Mi ddylwn i fod wedi prynu rhywbeth i mi fy hun hefyd!

Tuesday, December 4, 2007

atgofion o gymru 22

Diolches i i fy Arglwydd Iesu! Mi aeth dyn hynaws yn ei olwg â fi i tu mewn. Rôn i'n eistedd yn yr eglwys efo gollyndod enfawr ond teimlo tipyn yn annifyr am fod rhaid pawb wedi clywed swn uchel fy ymbarel ar y drws haearn!

Daeth Arfon ata i chwap ar ôl yr Oedfa. Mi nes i ddweud wrtho fo beth oedd wedi digwydd ac yn y blaen wrth yfed te mewn stafell arall yn yr islawr. Clywes i bod rhaid iddyn nhw gloi'r drws tra fod nhw'n cynnal oedfeuon rhag fandaliaeth. Roedd o'n glên iawn union fel ei negesau e-bost, ac yn siarad yn araf ac yn glir â'i acen Gogleddol hyfryd. Mi nes i gyfarfod pobl eraill yr eglwys hefyd.

Daeth o ag un o’i ferched ifanc â fi i fy llety yn Roath yn ei gar wedi fy ngwahodd i’w dyˆ am ginio y dirwrnod wedyn.

Monday, December 3, 2007

atgofion o gymru 21


Rôn i i fod i fynd i Oedfa'r Nos yn Ebeneser yn Heol Siarl i gyfarfod Arfon Jones. Dw i wedi bod yn cysylltu â fo ers dechrau dysgu Cymraeg. Swyddog GIG (Gobaith i Gymru) a golygydd Beibl.net ydy Arfon.

Roedd yn edrych yn hawdd iawn cael hyd i'r eglwys ar ôl y map. Ond fedrwn i ddim. Doedd 'na ddim arwyddion stryd. Roedd fy map yn dda i ddim, ac roedd yn ymddangos bod y bobl leol yn anymwybodol o enwau stryd. Rôn i ar goll yn llwyr.

Ar ôl crwydro o gwmpas y ddinas wrth gofyn i nifer o bobl am y cyfeiriad, gweles i ddyn efo gwasgod felen. (Dim heddwas oedd o ond roedd pawb efo gwasgod felen yn edrych fel tasai fo'n medru'ch helpu!) Siwr iawn, roedd o'n nabod y stryd! Angel arall rhaid fod wedi!

Roedd 'na ddwy eglwys yn Heol Siarl, un Pabyddol a'r llall heb arwydd. Mi es i at un heb arwydd. Roedd y drws dan glo. Cnocies i. Dim ateb. Roedd bron i mi roi'r gorau a mynd i fy llety yn Roath. Ond mi nes i gofio'r geiriau, "Curwch a bydd y drws yn cael ei agor." Dechreues i guro'r drws efo fy ymbarel. Yna, agorodd y drws!

Sunday, December 2, 2007

atgofion o gymru 20

Bydd hi'n cymryd pedair awr i Gaerdydd a fydd 'na ddim amser i fynd i'r ty bach, meddai garrwr y bws. Mi nes i benderfynu mynd i Gaerfyrddin a dal y trên yno er basai hi'n costio llawer mwy. Aeth y bws yn gyflym iawn yn y glaw. Stopiodd y bws mewn dre fach yn sydyn. Yna, aeth y gyrrwr i'r ty bach cyhoeddus ar frys! Dana annheg!

Mi ddaeth nifer o bobl ifanc i mewn i lenwi'r bws pan gyrhaeddon ni Llanbedr Pont Steffan. Mi ges i sgwrs bach ag un o'r merched gyfeillgar a bywiog. Roedden nhw'n dwad o Awstria ac yn mynd i Gaerdydd ar ôl treiluo sawl wythnosau yn Llanbed.

Mi nes i ddal y trên a chyrraedd Caerdydd yn ddiogel tua chwech o'r gloch. Peidiodd y glaw erbyn hyn.

Saturday, December 1, 2007

atgofion o gymru 19


Roedd yn tro cynta i mi fynd i wasanaeth Anglicanaidd. Rôn i braidd yn syn bod 'na ddim llawer o wahaniaeth rhyngddo fo a'n un ni yn Oklahoma (Evangelical Free Church.) Un peth rôn i'n sylwi oedd bod nhw wedi sefyll yn gydamserol i ganu pob emyn.

Dôn i ddim yn deall y bregeth (yn Gymraeg) yn dda ond roedd hi'n hyfryd cael addoli Duw efo'r bobl na. Mae 'na gymaint o ieithoedd yn y byd. Ac eto mae'r holl Gristnogion yn credu ac yn addoli'r un Duw.

Mi naeth Dogfael fy nghyflwyno i lawer o bobl yno. Roedd pawb yn glên iawn siarad â fi.

Mi ges i amser braf yn Aberystwyth er gwaetha'r glaw. Yna, cerddes i at yr orsaf i ddal y bws i Gaerdydd.