Sunday, December 30, 2007

digon o ddeunydd dysgu

Dw i mor hapus bod gen i ddigon o ddeunydd dysgu Cymraeg ar hyn o bryd yn ogystal â Radio Cymru, sef y deg nofel Cymraeg a Chwrs Pellach.

Uned 3 (gorffennaf syml) dw i'n gweithio arni hi rwan. Mi ddylwn i fod wedi meistroli'r pedair berf afreolaidd erbyn hyn. Mi fedra i sgwennu rhywsut ond maen nhw'n dal i fy nrysu pan dw i'n siarad. Felly mae'n gyfle da i mi adolygu yn enwedig efo'r CD.

Mae'r titwtor ar ei gwyliau tan y 7ed o fis Ionawr. Does dim brys arna i ond mae'n rhy hwyl i beidio.

2 comments:

Corndolly said...

Haia, Junko, dw i'n falch o glywed bod genynt ti lawer o bethau gwahanol i wneud rwan. Dw i newydd brynu copi o 'Colloquial Welsh' ar Ebay. 2 gryno ddisgiau a'r llyfr mewn format.pdf (Adobe Reader). Roedd o'n rhad. Wedyn, cofais i bod genynt ti gopi. Ydy o'n ddefnyddiol?

Emma Reese said...

Ydy wir. Y peth gora efo fo ydy bod y pedwar yn siarad yn hollol naturiol. Ond dylai fo gynnwys llawer mwy o ymarferion, dw i'n meddwl.