Sunday, September 30, 2012

nofel hanesyddol - 2

Dw i'n hoff iawn o nofelau hanesyddol. Dw i newydd ddechrau ar The Lion of St. Mark a sgrifennwyd ym 1889. Er bod y nofel ar gyfer plant, mae hi'n hynod o ddiddorol oherwydd cefndir y stori a chrefft yr awdur. Mae'r stori'n cael ei lleoli yn Venice yn y 14 ganrif tra oedd Venice a Genoa benben â'i gilydd. 

Mae'r awdur o Loegr, sef G.A. Henty yn fy atgoffa i o T. Llew Jones. Sgrifennodd dros 80 o nofelau (y rhan fwyaf ohonyn nhw'n storiau hanesyddol) ar gyfer plant. Dyma'r tro cyntaf i mi ddarllen un o'i lyfrau, felly fedrai ddim dweud dim am y gweddill. Mae'r nofel hon yn dda iawn fodd bynnag efo stori gyffroes a chyfle i nabod y lleoliad a'r hanes. Mae yna beth braf arall, hynny ydy, mae'r llyfr hwn a nifer mawr o'i lyfrau ar gael mewn ffurf electronig gan Amazon yn rhad ac am ddim.

2 comments:

Ann Jones said...

Mae'r llyfr yn swnio'n diddorol - dwi am ei roi ar fy restr

Emma Reese said...

Dw i tua hanner ffordd ac yn dal i fwynhau!