Saturday, September 29, 2018
blas
Roeddwn i heb fedru clywed y blas ers dau fis. Does dim achos amlwg ar wahân i heneiddio. Os felly, does dim triniaeth! Roeddwn i'n arbrofi nifer o feddyginiaethau cartref - sinsir, olew cnau coco, olew mintys, sinamon, soda pobi, ayyb a gymysgwyd â llawer o weddïau'r teulu. Mae'n ddiflas iawn methu clywed y blas. Yna, mae rhai blas wedi dod yn ôl ers deuddydd, diolch i'r Arglwydd! Roeddwn i'n hapus dros ben medru clywed pa mor wael ydy'r gwin coch a ges i!
Friday, September 28, 2018
gweddi
Pethau mae'r Arglwydd yn eu casáu - geiriau a chloriannau twyllodrus, tyst celwyddog
Pethau mae'r Arglwydd yn eu caru - y rhai sy'n gweithredu'n gywir, pwysau cywir
Pob bendith a thangnefedd gan yr Arglwydd i'r Barnwr Kavanaugh a'i deulu.
Pethau mae'r Arglwydd yn eu caru - y rhai sy'n gweithredu'n gywir, pwysau cywir
Pob bendith a thangnefedd gan yr Arglwydd i'r Barnwr Kavanaugh a'i deulu.
Thursday, September 27, 2018
tywydd nodweddiadol yn oklahoma
Wednesday, September 26, 2018
cyfarwyddwr newydd
Cafodd fy merch gyfle i fod yn gyfarwyddwr am y tro cyntaf fel rhan o'r cwrs yn y brifysgol. Dewisodd hi olygfa fer o nofel enwog Jane Austen, sef Emma, a gydag wyth o "actorion," roedden nhw'n ymarfer yn galed. Perfformiwyd y ddrama nos Sul yn llwyddiannus o flaen y dosbarth. Dwedodd hi ei bod hi mor nerfus pan gyflwynodd y ddrama fel roedd hi'n crynu'n ofnadwy, efallai mwy nerfus na'r actorion!
Tuesday, September 25, 2018
ystafell hobi
Mae gynnon ni doiled yn y garej a oedd yn arfer lletya moch cwta fy merch. Wedi iddyn nhw farw flynyddoedd yn ôl, caewyd y drws heb neb i'w ddefnyddio. Yn ddiweddar glanhaodd y gŵr a throi'r ystafell fach yn ei lecyn cyfleus a chyfforddus i lanhau ei gynnau. Mae o'n treulio awr neu ddwy yno bob wythnos yn mwynhau ei hobi wrth wrando ar YouTube.
Monday, September 24, 2018
golau newydd
Daeth Kurt, ein handy-man i osod golau newydd i'r nenfwd yn y gegin. Fflwroleuol oedd yr hen un a oedd yn methu'r rhan fwyaf o'r amser. Ces i fy synnu dros ben i wybod pa mor wahanol ydy LED. Mae'r gwahaniaeth fel rhwng y cyfrifiaduron yn yr 80au a'r rhai cyfredol. Dw i'n gwybod rŵan ein bod ni'n arfer byw mewn hanner tywyllwch heb sylweddoli! Mae'r LDE yn defnyddio llawer llai o drydan, medden nhw.
Saturday, September 22, 2018
hwyl mewn rali
Mae'r Arlywydd Trump wrthi'n teithio i gynnal rali ar ôl y llall dros America er mwyn cefnogi'r ymgeiswyr Gweriniaethol. Roedd yn Las Vegas nos Iau lle mae brawd y gŵr a'i deulu'n byw. Ceidwadwyr pybyr ydyn nhw hefyd. A dyma fy chwaer yng-nghyfraith sydd yn dod o'r Philippines yn mynychu'r rali'n eiddgar. (Roedd ei gŵr yn gorfod gweithio.) Dwedodd iddi gael profiad anhygoel o hwyl gyda llond le o gyd cefnogwyr yr Arlywydd Trump.
Friday, September 21, 2018
penpen-blwydd y gŵr
Pen-blwydd y gŵr ydy hi heddiw yn 63 oed. Ceith o'n ei galw'n henoed mewn dwy flynedd tasai fo'n byw yn Japan oherwydd bod pawb sydd dros 65 oed yn henoed yn swyddogol yno! Gwnes i gacen geirch efo banana, afal, cnau a datysen. Dim cacen ydy hi a dweud y gwir oherwydd nad ydy hi'n ddigon melys. Dim ots. Dydy'r gŵr ddim yn hoffi melysion beth bynnag. Bydda i'n coginio gyoza, ei hoff fwyd i swper.
Thursday, September 20, 2018
gwau ar dun
Wednesday, September 19, 2018
yom kippur 2
Tuesday, September 18, 2018
yom kippur
Monday, September 17, 2018
dw i eisiau cyfiawnder
Cafodd Ari Flud ei drywanu i farwolaeth yn Israel ddoe. Tad i bedwar o blant a ffrind mawr i Jane o Jerwsalem oedd o. Roedd o'n gweithio'n ddygn dros Israel. Cafodd ei lofruddio gan fachgen Palestinaidd 17 oed mewn canolfan siopa. Cynhaliwyd angladd neithiwr a fynychwyd gan filoedd o bobl. Yn y cyfamser aethpwyd y bachgen a gafodd ei saethu (ond heb farw) i'r ysbyty Israelaidd i gael triniaeth! Mae troseddau tebyg gan y Palestiniaid yn digwydd yn rhy aml; mae gormod o Israeliaid ddiniwed wedi cael eu lladd. Mae bai ar yr arweinwyr Palestiniaid sydd yn annog eu pobl i ladd yr Iddewon drwy wobrwyo'r troseddwyr gyda thaliadau mawr.
Saturday, September 15, 2018
mae pat yn ôl
Wedi misoedd o ddistawrwydd, mae Pat Condell yn ôl o'r diwedd. Roeddwn i'n ofni bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd iddo. Falch o weld ei fod o'n dal ati fynegi ei farn heb flewyn ar dafod, heb ofn, a heb betruso am eiliad yn mynd i'r afael â'r pynciau llosg. Gyda llaw, mae ymddygiad y bobl ar y chwith mor debyg rhwng y DU ac UDA fel gallai fo fod wedi sôn am UDA.
Friday, September 14, 2018
fy ffefryn newydd
Dim ond 16 oed ydy o, ond mae Eitan yn gogydd anhygoel o dda, ac mae o'n creu fideos o uwch safon. Ar ben hynny, mae ganddo bersonoliaeth hynod o hoffus fel mae'n bleserus ei weld o. Dw i'n siŵr y bydd o'n gogydd o fri un diwrnod.
Thursday, September 13, 2018
darganfyddiad
Wednesday, September 12, 2018
bwyd diogel
Mae gan fy merch yn Japan alergedd bwyd difrifol. Dylai hi osgoi llefrith, soi, blawd, wyau, cnau, a llawer o ffrwythau; dylai hi fod yn hynod o greadigol i baratoi ei saig. Trefnodd ei ffrind da barti penblwydd iddi'r wythnos diwethaf wrth baratoi gwledd hyfryd gan ddefnyddio cynhwysion "diogel." Dyma gacen a hufen iâ a wnaeth. Dim ond llefrith coco a sinamon sydd yn yr hufen iâ.
Tuesday, September 11, 2018
Monday, September 10, 2018
gŵyl y trwmped
"Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd... Bydd yn ddiwrnod i chwi ganu'r utgyrn..." Numeri 29:1
"... pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef..." I Thesaloniaid 4:16
"... bydd yr utgorn yn seinio, y meirw yn cael eu cyfodi yn anllygredig, a ninnau'n cael ein newid." I Corinthiaid 15:52
Tyrd, Arglwydd Iesu!
"... pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef..." I Thesaloniaid 4:16
"... bydd yr utgorn yn seinio, y meirw yn cael eu cyfodi yn anllygredig, a ninnau'n cael ein newid." I Corinthiaid 15:52
Tyrd, Arglwydd Iesu!
Saturday, September 8, 2018
sgil arbennig
Mae gan fy merch hynaf sgil arbennig, sef darganfod bargen, yn enwedig mewn siopau elusen. Yn aml iawn mae hi'n medru ffeindio dillad gyda brand posh ymysg pentwr o hen ddillad. Dyma ei darganfyddiad diweddaraf - ffrog gan Nordstrom y byddai'n costio $229 os prynir yn newydd. Talodd hi ond $7! Bydd hi'n mynd i'w gwisgo mewn parti ddiwedd y mis.
Friday, September 7, 2018
mis prysur
Thursday, September 6, 2018
sefyll yn erbyn y llif
Tra bod nifer o gwmnïau mawr yn cymryd yr ochr chwith er mwyn dilyn y llif gwleidyddol gywir, mae yna brifysgol fach yn Missouri yn mynd yn ei erbyn a sefyll yn ddewr. Cyhoeddodd College of the Ozarks, lle mae fy nau blentyn yn astudio, fyddai'n cael gwared ar y gwisgoedd athletig sydd gan arwydd Nike; maen nhw eisiau dewis eu gwlad yn hytrach na chwmni. "Os oes gan Nike gywilydd ar America, mae gynnon ni gywilydd ar y cwmni," meddai'r prif athro.
Wednesday, September 5, 2018
tad efo coesau hirion
Gwelais y nofel hon a adawyd gan fy merch ar ei silff, a dechrau ei darllen - Daddy Long-Legs gan Jean Webster, gor-nith Mark Twain. Roeddwn i heb ei darllen er mai nofel enwog ydy hi. Ac felly doeddwn i ddim yn gwybod yn ffodus pwy ydy Tad efo Coesau Hirion pan gychwynais. (Ces i syniad hanner ffordd drwodd fodd bynnag.) Roedd yn stori annisgwyl o ddiddorol efo'r prif gymeriad hynod o ddeniadol.
Tuesday, September 4, 2018
diogelu'r to
Mae gynnon ni fwy o law'r haf yma nag arfer. Mae'r coed a'r glaswellt yn tyfu'n nerthol. Torrodd a thrimiodd y criw ein coed ni fisoedd yn ôl, ond roedd rhai canghennau'n cyffwrdd y to'n ddiweddar. O'r diwedd roedd gan y gŵr amser i wneud y gwaith. Aeth i fyny ar y to a'u torri nhw. Mae'r to'n ddiogel bellach.
Monday, September 3, 2018
bwrdd ping-pong hardd
Saturday, September 1, 2018
gorffen emma
Gorffennais wrando ar Emma. Gan nad oes Karen Savage, fy ffefryn ar gael, dewisais Moira Fogarty o Ganada. Mae hi'n wych hefyd. Roeddwn i'n medru gwerthfawrogi'r nofel honno mwy ar ôl gweld y fideo eto'n ddiweddar. Mr. Knightley ydy fy hoff gymeriad heb os.
"Mae un peth bod dyn yn medru ei wneud bob amser, sef ei ddyletswydd." - Mr. George Knightley
"Mae un peth bod dyn yn medru ei wneud bob amser, sef ei ddyletswydd." - Mr. George Knightley
Subscribe to:
Posts (Atom)