Wednesday, December 28, 2011

dim diolch i'r llew

Fel arfer mae pob system weithredu newydd gan Apple yn ardderchog (fe alla i ddweud hyn er mod i ddim yn deall y cyfrifiaduron yn iawn!) Ond mae Llew, eu diweddaraf yn dal i roi problemau i ni. Mae'n ymddangos bod ein hen gyfrifiadur ni ddim yn gweithio'n iawn efo'r llew. Mae o'n gweithio'n berffaith iawn efo Llewpard Eira. Penderfynodd y gwr newid y system yn ôl at y llewpard. Mae o wrthi ond yn wynebu problem ar ôl y llall. Mae o'n siarad efo staff Apple ar hyn o bryd. Gobeithio y bydd o'n llwyddo. Dw i ddim eisiau colli fy ffeil gan gynnwys y nofelau Kindle a brynais i'n ddiweddar!

4 comments:

neil wyn said...

dwi ddim yn gyfarwydd ag OSau Macs, ond rhaid dweud bod eu meddalwedd ar yr ipad yn hollol wych, fel melfed! gobeithio gewch chi i ddatrys y problem efo'r Llew cyn hir.

Emma Reese said...

Diolch Neil. Roedd rhaid i'r gwr fynd a^'r cyfrifiadur i siop Apple. Dan ni'n ei ddisgwyl yn o^l yfory (gobeithio!) Yn y cyfamser dw i'n cael benthyg gliniadur y gwr pan fod o ddim yn ei ddefnyddio.

Linda said...

Helo Junko !
Gobeithio y bydd pobdim yn cael ei sortio yn fuan iawn. Wyt ti wedi medru achub y nofelau ddaru ti brynu ar kindle ar flash drive neu rhywbeth tebyg?

Emma Reese said...

Dw i ddim yn gwybod eto. Daeth y gwr a^'r cyfrifiadur adref p'nawn 'ma ac wrthi'n rhoi popeth yn o^l rwan.