"Dydi amsar diodda nag amsar petha braf ddim yn para'n hir." Efallai fy mod i wedi dyfynnu geiriau Nanw Siôn yma mwy nag unwaith, ond fedra i ddim helpu peidio teimlo felly ar ddiwedd fy ngwyliau bob tro. Felly cyrhaeddodd amser i adael Japan. Mwynheais i bob munud. Roedd yn ddeg gwaith brafiach mynd o gwmpas efo fy merch nag y byddwn i wedi mynd ar fy mhen fy hun. Roedd yn wych hefyd bod fy mam yn ddigon iach i fwynhau'n hymweliad ni a theithio i Atami efo ni. Hwyl fawr i Japan felly, am y tro.
llun uchod: fflat mam
llun isod: bara melys gwych, ayyb i'r brecwast olaf!
No comments:
Post a Comment