pizza gorau
Doeddwn i ddim yn disgwyl bwyta pitsa gwych mewn maes awyr. Wedi gweld siop bitsa efo popty coed tân ynddi hi yn Denver, archebais i Margherita'n syth. Er defnyddiwyd caws Americanaidd yn hytrach na Mozzarella ffres, roedd o'n bitsa gorau a ges i erioed. Roeddwn i'n meddwl mai Eidalwr oedd y cogydd, a dyma brofi fy Eidaleg sydyn yn betrusgar - Sbaenwr oedd o ond roedd o'n ddigon clên yn dweud, "grazie."
No comments:
Post a Comment