Mae Atami yn un o lefydd enwog diri am eu onsen, ddŵr poeth llesol. Dydy o ddim mor ffasiynol na'r lleill bellach a dweud y gwir, ond ymwelodd Ieyasu Tokugawa, y Shogun cyntaf ag Atami wedi'r cwbl. Roeddwn i eisiau dod yma ers gwylio ffilm Ghibli, sef Only Yesterday flynyddoedd yn ôl. (Wnes i ddim llewygu yn y bath fel Taeko!)
Roedd y gwesty'n arbennig o dda o ystyried y pris. Mae pob ystafell yn wynebu'r môr; mae'r baddonau mawr yn wych; mae yna gymaint o fwyd blasus yn y brecwast bwffe. Byddwn i wedi cerdded o gwmpas y dref mwy pe bai gynnon ni amser.
No comments:
Post a Comment