Sunday, March 24, 2013

yn ôl o wlad goed ceirios

Diolch i bobl sydd wedi gyrru dymuniadau gorau ar gyfer y daith. Des i'n ôl yn ddiogel y bore 'ma, hanner dydd hwyrach na'r disgwyl oherwydd storm eira annisgwyl yn Tulsa. Dyma adrodd hanes fy siwrnai yn Japan.

Wedi gaeaf ofnadwy o oer, trodd dywydd ardal Tokyo'n fwyn pan es i gyda fy merch. Dechreuodd y coed ceirios flodeuo'n gynt nag arfer, ac erbyn i ni adael, cyrhaeddon nhw eu hanterth. Digwyddiad cenedlaethol ydy blodeuo'r coed ceirios; adroddir sut mae o gan bob gorsaf teledu bob dydd.

1 comment:

Linda said...

Croeso adref Junko ! Gobeithio dy fod wedi cael amser arbennig yn Japan. Yn edrych ymlaen i ddarllen dy hanes.