Friday, March 1, 2013

cyfarchion o oklahoma

Dydd Gŵyl Dewi Sant Hapus!


Dw i'n bwriadu coginio cawl cennin a bara brith i swper fel arfer. Mae gan ysgol fy mab wisgo ysgol ond un diwrnod bob mis mae'r plant yn cael gwisgo beth bynnag maen nhw eisiau. Heddiw ydy'r diwrnod digwydd bod. Dewisodd y mab grys tîm Dinas Caerdydd. Prynais hwn yng Nghaerdydd pan es i Gymru am y tro cyntaf yn 2007. Cafodd orchymyn gan ei fam i sôn am Ddydd Gŵyl Dewi wrth y dosbarth!

2 comments:

Rhys Wynne said...

Go dda fo am genhadu drostom!

(Gwell peidio dweud wrth dy fab, ond wyt ti wedi clywed am helyntion y clwb -sef bod perchennog (ariannog) o Malaysia wedi prynnu'r clwb, ac wedi newid lliw y crysau cartref i liw coch? Mae'n honni ei fod yn liw lwcus yn y Dwyrain)

Mae llawer o'r cefnogwyr yn anhapus gan gredu ei fod yn sathru ar eu traddodiad - er mae'r clwb ar frig y tabl, felly efallai mae Mr Tan sy'n iawn wedi'r cyfan...

Emma Reese said...

Dylen nhw newid enw'r clwb felly - Redbird!