Wrth ddysgu Ffrangeg, dw i'n tueddi i'w chymysgu hi a'r Eidaleg a'r Gymraeg. Mae'r Ffrangeg a'r Eidaleg yn debyg iawn i'w gilydd tra nad ydy'r Gymraeg yn hollol annhebyg. Roeddwn i'n adolygu'r rhifau yn y tair iaith yn ddiweddar; rŵan dylwn i ganolbwyntio ar enwau dyddiau'r wythnos a misoedd.
Ffrangeg un, deux, trois, quatre, cinq, six, sept, huit, neuf, dix
Eidaleg uno, due, tre, quattro, cinque, sei, sette, otto, nove, dieci
Cymraeg un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, saith, wyth, naw, deg
No comments:
Post a Comment