Monday, December 10, 2007

sgwrs efo simon

Mi ges i lawer o hwyl adrodd fy siwrnau yng Nghymru ac dw i'n teimlo tipyn yn drust mod i wedi gorffen. Ond mae 'na amser i bopeth dan y nef.

Siarades i Gymraeg a Japaneg ar Skype bore ma. Mi ges i sgwrs fach efo Simon Agar, y dyn ieithoedd.

http://www.omniglot.com/

Roedd o'n dysgu Cymraeg yn yr ysgol haf yn Llanbed tra ô'n i yn un ym Mangor ym mis Mehefin. Mae ei Japaneg yn dda er fod o'n gwadu. Dw i ddim yn gwybod sut mae un yn medru dysgu nifer o ieithoedd ar un pryd. Does dim lle ar ôl yn fy mhen i ddysgu ieithoedd eraill!

Gofynes i ba iaith ydy'i ffefryn.
"Cymraeg"
Da iawn, Simon! ^_^

2 comments:

Corndolly said...

Ydy Simon yr un dyn a rhoddais dy gyfeiriad e-bost ato ym Mhwllheli?

Emma Reese said...

Nac ydy. Dw i newydd ddod yn nabod o.