Saturday, June 12, 2010

cymru 2010 - cychwyn


Helo bawb! Des i'n ôl o Gymru wedi cael amser bendigedig. Dw i'n awyddus i adrodd fy hanes. Gadewch i mi ddechrau o'r dechrau.

Cyrhaeddais i Faes Awyr Manceinion Mai 23, diwrnod yn hwyrach na'r disgwyl. Collais yr awyren o Chicago i Fanceinion oherwydd bod yr awyren o Tulsa i Chicago'n hwyr. Hedfanais i o Chicago i Efrog Newydd y diwrnod wedyn wedi treulio'r noson mewn gwesty yn Chicago, yna i Manceinion.

Es i i Fangor ar y trên ynghyd y llond trên o bobl ifanc oedd yn mynd i Benwythnos Mawr BBC Radio. Wrth i mi fynd allan o'r orsaf, dyma Cathrin yn fy nisgwyl. Roedd yn braf ei chyfarfod wedi i ni gyfnewid negeuon e-bost o bryd i'w gilydd ers rhyw ddwy flynedd.

Llun: Maes Awyr Chicago

3 comments:

Linda said...

Yn edrych ymlaen i ddarllen am hanes dy wyliau ...braf gweld y maple leaf yn Chicago !

neil wyn said...

Dwi'n edrych ymlaen at ddarllen hanes dy daith i Gymru hefyd, fesul pennod!

Emma Reese said...

Diolch i chi'ch dau! Dw i wrth fy modd yn cael rhannu fy hanes efo pawb, ond rhaid i mi ymdrechu'n galed oherwydd bod fy Nghymraeg ysgrifenedig yn mynd yn rhydlyd tra oeddwn i'n canolbwyntio ar un llafar!

(Dewisais i'r lle gorau i dynnu'r llun 'na!)