Sunday, January 8, 2012

kindle

Mae un o'r merched newydd brynu Kindle. Roedd yna broblem ar gychwyn oherwydd bod Amazon wedi anghofio rhywbeth technegol cyn ei yrru. Ond mae popeth yn iawn wedi i'r broblem gael ei datrys bellach. Dw i'n cael fy synnu gweld y sgrin fach glir. Mae hi'n debyg i dudalen llyfr. Does dim llacharedd arferol sydd ar sgrin gyfrifiadur. Prynais i ddwy nofel Kindle ond dw i'n eu darllen ar y cyfrifiadur. Baswn i am gael benthyg ar ei Kindle rywdro!

2 comments:

DSO said...

Emma, wyt ti'n sylweddoli bod llyfrau Cymraeg (gan Y Lolfa) ar gael nawr, hyd yn oed yma yn America? Mae newid byd...
http://www.amazon.com/s/ref=nb_sb_noss?url=search-alias%3Ddigital-text&field-keywords=lolfa&x=0&y=0

Emma Reese said...

Chwarae teg i Amazon! Gobeithio y bydd mwy ar gael.