Sunday, January 15, 2012

neges

Dydy Radio Cymru ddim ar gael ar hyn o bryd; ces i neges annisgwyl wrth fynd at y linc rŵan. Bydd o'n gweithio nes ymlaen dw i'n siŵr, ond yr hyn sy'n mynd ar fy nerfau ydy mai yn Saesneg mae'r neges. Rhaid i Radio Cymru sylweddoli mai pobl sy'n deall Cymraeg yn troi at eu rhaglenni. Neu dydyn nhw ddim eisiau trafferthu eu hun yn rhoi'r neges yn Gymraeg ond defnyddio'r un Saesneg a baratowyd gan BBC?

2 comments:

Rhys Wynne said...

Cyfuniad o anwybodaeth, diogrwydd a diffyg parch ddychmyga i.

Beth yw arwyddocad bathodyn CPD Brescia?

Emma Reese said...

Mae'n gweithio bellach.

Dw i'n licio lliw'r bathodyn 'na. Hefyd Roberto Baggio a chwaraeodd dros Brescia.