Prin fy mod i'n cyffwrdd â phynciau gwleidyddol yn fy mlog achos nad ydw i eisiau dadlau sydd yn debygol i'w dilyn. Fedra i ddim peidio sgrifennu, fodd bynnag, am y dyn dw i newydd ei weld, sef y gwestai dirgel at gynhadledd y Gweriniaethwyr a gynhaliwyd yn Florida neithiwr.
Clint Eastwood oedd y gwestai. Er ei fod o'n tynnu ymlaen, mae o heb golli ei ysbryd miniog. Cafodd gymeradwyaeth enfawr tro ar ôl y llall fel roedd o'n gorfod stopio cyn iddo gael parhau. "Os nad ydy'r dyn yn gwneud y gwaith yn iawn, dylai fo fynd," meddai fo. Falch o glywed iddo ddweud bod yna ddigon o bobl efo egwyddorion fel fo hyd yn oed yn Hollywood. Mae Dirty Harry yn fyw ac yn iach.
(Wyddoch chi beth? Mae wyneb Clint Eastwood yn fy atgoffa o fy niweddar dad!)
Llun: http://www.daniellevis.com/?p=1654
Friday, August 31, 2012
Thursday, August 30, 2012
dant y llew
Mae o'n ôl wedi diflannu yn ystod y tywydd poeth a sych. Mae'n moch cwta ni'n hoff iawn ohono fo ac mae'n rhoi fitaminau angenrheidiol iddyn nhw. Bydda i'n ei gasglu pan fydda i'n mynd am dro os mae o ar gael, ond roeddwn i heb ei weld am fisoedd. Cawson ni ddigon o law o'r diwedd yn ddiweddar, a daeth Dant y Llew'n ôl wedyn. Mae'r moch cwta'n hapus.
Wednesday, August 29, 2012
gwestai gwrywaidd cyntaf
Roedd yna westai gwrywaidd at flog ffasiwn fy merch am y tro cyntaf heddiw. Mae o'n gweithio i ffrind fy merch. Mae fy merch yn ceisio ffeindio pobl ffasiynol yn y meysydd annisgwyl i wahodd i ymddangos yn ei blog. Syniad da.
Tuesday, August 28, 2012
skyview
Dangosodd fy merch ryfeddod ar ei iPhone Touch newydd - application o'r enw SkyView. Mae'r sgrin fach yn dangos lle mae'r sêr, planedau a lloerennau ayyb ar y foment. Aethon ni i gyd allan neithiwr i weld y cytserau. Mae'n anodd gwybod beth ydy beth fel arfer ond mi fedrwn i adnabod yr Alarch yn syth efo SkyView. Roedden ni'n aros ar y dec am sbel yn edmygu'r cytserau. Dyfais anhygoel!
Monday, August 27, 2012
nofel hanesyddol
Prynais i nofel arall ynghyd â Thermae Romae gan Amazonjapan, a dechrau ei darllen ddyddiau'n ôl. Nofel hanesyddol ydy hi am Nobunaga Oda, un o'r dynion enwocaf yn hanes Japan. Mwynheais i'r rhaglen deledu cymaint pan oeddwn i yn Japan ym mis Mawrth fel prynais i'r llyfr i wybod mwy amdano fo. Dw i'n ei chael hi'n anodd darllen hanes fel "gwybodaeth" ond dw i'n hoff iawn o nofelau hanesyddol. Wrth gwrs bod rhannau'n ffuglen, ond dim ots. Mae'n hynod o ddiddorol. Y broblem ydy bod yna gynifer o enwau tebyg yn ogystal â pherthnasau cymhleth. Yn aml iawn dw i ddim yn gwybod pwy ydy pwy. (Rodd gan dad Nobunaga 25 o blant a aned gan nifer o ordderchadon, ac roedd ganddyn nhw enwau ofnadwy o debyg!) Mae yna fwy o lyfrau yn y gyfres; byddwn i eisiau eu darllen nhw i gyd.
Sunday, August 26, 2012
yfed te
Mae gen i ryw ddwsin o gwpanau te dw i wedi eu casglu dros flynyddoedd. Roeddwn i'n gwirioni ar yfed gwahanol flas yn fy nghasgliad o gwpanau wrth ddarllen nofelau Jane Austen. Ond yn ddiweddar maen nhw'n prysur gasglu llwch ar y silff; well gen i ddefnyddio mwg di-ffws yn anffodus. Does gan y te fawr o flas beth bynnag.
Dywedodd fy merch hynaf ddyddiau'n ôl fod hi'n dechrau yfed te mewn cwpan del. A dyma olchi un o fy nghwpanau llychlyd a thywallt te ynddo fo. Dw i'n meddwl bod yr un te'n blasu'n well. Druan o'r cwpanau; mi ro' i ail-gyfle iddyn nhw o hyn ymlaen.
Saturday, August 25, 2012
kagawa!
Mae'r hogyn o Japan newydd sgoriodd ei gôl gyntaf dros Man U erbyn Fulham! Da iawn Kagawa! Mae fy mab ifancaf wedi bod yn dilyn Premier League a nifer mawr o gynghreiriau eraill yn ffyddlon. Dw innau wedi gweld Kagawa'n chwarae a rhedeg fel gwiwer ar gae sawl tro. Mae o wedi profi ei werth.
Friday, August 24, 2012
mwy o fyd bethan
Ces i hwn gan Linda o Comox. (Diolch i ti, Linda!) Mwynheais i fo'n fawr. A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn rhy hoff o'i nofelau i ddysgwyr, sef Blodwen Jones, ond roedd y llyfr hwn yn hynod o ddifyr a feddylgar. Mwynheais i ddarllen am ei siwrnai yn Syria, Sri Lanka a mwy yn ogystal â'i phrofiadau yn ei gardd gefn.
Thursday, August 23, 2012
radio venezia
Dw i newydd ddarganfod Radio Venezia ar y we. Y broblem ydy nad oes modd i ddewis beth dach chi eisiau gwrando arno. Does gen i ddiddordeb yn y gerddoriaeth bop ond newyddion neu raglenni sgwrsio (fel Nia, Beti a'i Phobol, ayyb.) Des i ar draws newyddion byr. Efallai bod o'n cael ei ddarlledu bob awr (gobeithio.) Dydy Rai (gorsaf genedlaethol yr Eidal) ddim cystal â BBC mae arna i ofn. Gobeithio y bydda i'n ffeindio ffefrynnau achos bod gwrando ar radio'n ffordd ardderchog i ddysgu ieithoedd.
Wednesday, August 22, 2012
gwestai i flog ffasiwn
Mae fy merch hynaf yn cadw blog ffasiwn efo ei ffrind gorau sy'n dwrnai. Mae ganddi westeion o bryd i'w gilydd. Dwedodd hi'r bore 'ma fod hi'n tynnu lluniau o'i gwestai ar gyfer y blog. Dyma weld ei phost heddiw a chael fy synnu i weld ei gwestai - merch ifanc glws arall a hithau'n gweithio fel swyddog profiannaeth. Mae'n ymddangos bod gan Oklahoma ferched prydferth yn eu system gyfraith!
Tuesday, August 21, 2012
mae o yma o'r diwedd
Monday, August 20, 2012
awn ni i braum's!
Ces i a'r teulu hufen iâ yn Braum's neithiwr lle mae fy merch yn gweithio'n rhan amser. Roedd yn noson ofnadwy o brysur i'r siop boblogaidd. Roedd yna giw hir o gwsmeriaid o flaen y cownter. Archebes i Strawberry Shortcake Sundae, a dyma fy merch yn ei baratoi'n fedrus. Roedd yn flasus ac enfawr. Bwytes i fo i gyd fodd bynnag.
Sunday, August 19, 2012
yr unig glochdy
Wrth i fi a'r teulu yrru ger y brifysgol y bore 'ma, clywais i gloch y clochdy'n canu. Mae'n ymddangos bod o'n canu bob awr ond prin fy mod i'n ei glywed. Roedd yn atseinio'n braf o gwmpas. Roeddwn i'n anghofio bod gynnon ni glochdy a dweud y gwir - yr unig un yn y dref hon.
Saturday, August 18, 2012
tuedd newydd
Es i efo'r teulu i dŷ ffrind neithiwr am swper. Daeth rhyw ddeg o fyfyrwyr o Japan hefyd (llawer mwy na ddisgwyliwyd gan y ffrind.) Heblaw am ddiffyg bwyd a gweithgareddau, roedd yn noson braf.
O leiaf roeddwn i'n cofio gofyn i un o'r myfyrwyr sydd newydd ddychwelyd o Japan ydy hi wedi gweld Thermae Romae yn y theatr. Ydy, ac roedd hi'n gwirioni arno. Wedi gweld y ffilm, aeth hi dan ddŵr y bath hyd yn oed i weld fyddai hi'n medru teithio i Rufain hynafol! A gofynnwyd gan ei mam be' ar y ddaear mae hi'n ei wneud. Tybed bod y ffilm wedi creu tuedd newydd ym maddonau Japan.
O leiaf roeddwn i'n cofio gofyn i un o'r myfyrwyr sydd newydd ddychwelyd o Japan ydy hi wedi gweld Thermae Romae yn y theatr. Ydy, ac roedd hi'n gwirioni arno. Wedi gweld y ffilm, aeth hi dan ddŵr y bath hyd yn oed i weld fyddai hi'n medru teithio i Rufain hynafol! A gofynnwyd gan ei mam be' ar y ddaear mae hi'n ei wneud. Tybed bod y ffilm wedi creu tuedd newydd ym maddonau Japan.
Friday, August 17, 2012
panig!
3:10 yn y p'nawn - amser i adael y tŷ i gasglu fy merch iau. Yna roeddwn i'n sylweddoli am y tro cyntaf fy mod i heb gar. Aeth y gŵr i'r gwaith y bore 'ma, ac aeth fy merch hyn i weithio yn y siop hufen iâ ar ôl cinio. Does gan fy merch iau ffôn symudol. Ffoniais i'r gŵr ond atebodd o ddim. Panig! Mae gan gymydog agos ddau hogyn sy'n mynd i'r un ysgol, un o'r Almaen a'r llall o Brasil. Dyma chwilio am ei rif ffôn a gofyn a fyddai'n bosib iddo gasglu fy merch ynghyd â'i hogia. Byddai! Mae fy merch newydd ddod adref. Gollyngdod mawr. (A dweud y gwir, mae'r hanes yn fwy cymhleth na hyn, ond dyma'r swm a sylwedd.)
Thursday, August 16, 2012
ffrog briodas
Pan es i mewn i siop olchi dillad er mwyn nôl siwt y gŵr, fe welais ffrog briodas yn hongian o'r nenfwd. Un hen ffasiwn oedd hi yn ôl y ffasiwn gyfredol efo llewys hirion wedi'u haddurno. Roeddwn i'n ei licio hi fodd bynnag, (Ia, hen ffasiwn ydw i!) y steil tebyg i fy un i. dyma dynnu llun ohoni hi. Dwedodd y ferch wrth y til fod y ffrog ar werth os oeddwn i eisiau. Mae gen i dair merch sengl, ond dw i ddim yn meddwl bod hi at eu dant. Mae'n ymddangos bod pob priodferch yn mynnu noethi eu hysgwyddau a'u breichiau'n ddiweddar. Wel, dim ots. Dw i'n hoffi'r ffrog hon.
Wednesday, August 15, 2012
cinio bach
Wedi clywed am Chick-fil-A, y bwyty bwyd cyflym a dynnodd sylw'n helaeth yn ddiweddar, aeth y gŵr i'u cownter yn ffreutur y brifysgol i brynu cinio i ddangos ei gefnogaeth. Roedd o'n licio'r darnau bach o gyw iâr fel mae o wedi mynd yno sawl tro ers hynny ac yn cadw'r bagiau papur i gludo ei frechdanau.
Tuesday, August 14, 2012
anobeithiol
Roedd rhaid i fy merch fynd i'r ysgol i newid trefn y dosbarthiadau yn y tymor nesa. Dim ond un diwrnod sydd ar gael i'r holl ddisgyblion sydd eisiau gwneud yr un peth. Roedd yna giw hir er bod ni'n cyrraedd 20 munud cyn y drws agor. Wedi iddi roi ei henw i'r staff, arhoson ni am ddwy awr. Wedyn, cawson ni wybod bod y swyddfa'n barod i gau, a hithau heb gael gwneud dim. Maen nhw'n anobeithiol o aneffeithiol, bob tro.
Monday, August 13, 2012
medal aur
Dw i heb ddilyn canlyniadau gemau Olympaidd ond ces i wybod y bore 'ma am yr hogan 15 oed o Lithuania a enillodd y fedal aur yn y broga. Ffeindiais i glip ar You Tube; mae hi'n anhygoel o nerthol a gosgeiddig. Roedd yn braf gweld hi'n curo'r nofwyr eraill o fri. Roeddwn i eisiau gweiddi efo'r gohebwyr!
Sunday, August 12, 2012
dim pres yn y banc
Dw i ddim yn gwybod bod yna "fanciau ar lein" sydd ddim yn cario pres go iawn yn eu hadeiladau. Mae'n amlwg bod y lleidr a geisiodd dwyn un ohonyn nhw yng ngogledd Eidal ddim yn ymwybodol o hynny chwaith. Pan ofynnwyd am bres gan y lleidr, esboniodd y clerc heb banig sut le oedd y banc. "Fyddech chi'n medru awgrymu un arall?" gofynnodd y lleidr wrth y clerc. Na fyddai'n anffodus (neu'n ffodus!) Yna, cerddodd y lleidr allan drwy'r drws blaen.
Saturday, August 11, 2012
elfen mac
Dictation & Speech ydy un o nifer o bethau gwych MAC yn medru ei wneud. Dw i'n defnyddio'r elfen hon sy'n darllen yn uchel unrhywbeth ar y we. Mae yna ddewis o ddwsinau o ieithoedd (yn anffodus dim Cymraeg.) Mae tri llais ar gael ar gyfer yr Eidaleg (Alice, Paolo, Silvia.) Gyda eu help dw i'n medru clywed beth bynnag dw i eisiau a chreu clipiau clywedol personol.
Friday, August 10, 2012
diwedd y gwyliau
Wrth i wyliau'r ysgol ddirwyn i ben, penderfynais i orffen y gwaith yn y llyfrgell sydd ar ôl. Gallwn i fod wedi ei wneud o wythnosau'n ôl ond arhosais i hyd heddiw. Felly roeddwn i wrth y cyfrifiadur yn y llyfrgell drwy'r bore. Dim ond hanner a orffennais. Rhaid mynd yn ôl eto cyn yr ysgol gychwyn Awst 22. Bydd hi'n gychwyn wythnos yn hwyrach na'r disgwyl oherwydd ei bod hi'n colli dwy athrawes yn sydyn.
Thursday, August 9, 2012
glaw!
O'r diwedd! Gawson ni'n gwlychu! Pan ddechreuodd hi lawio neithiwr tra oeddwn i'n mynd am dro, fedrwn i ddim peidio dawnsio'n llawen yn y glaw. Yna, yn ystod y nos daeth glaw go iawn, yn drwm, efo taranau gogoneddus. Mae'n heulog y bore 'ma eto ond mae'r awyr yn ffres a'r tir yn wlyb am y tro cyntaf ers misoedd.
Wednesday, August 8, 2012
at y deintydd
Prin fy mod i'n gorfod mynd at y deintydd, diolch i Fam am ei gofal dygn pan oeddwn i'n blentyn. Ond roeddwn i'n sylweddoli'n ddiweddar fy mod i'n colli un o'r ddau unig filling a ges i dros 40 mlynedd yn ôl. A dyma fynd at y deintydd sy'n ffrind da i mi a'r teulu. (Ffrind i fy merched ydy ei gynorthwy-ydd.) Fe farnodd o na fyddwn i angen anesthetig er byddai fo'n ffeilio fy nant tipyn cyn ei lenwi. Roeddwn i'n ofnadwy o nerfus! Aeth popeth yn iawn fodd bynnag. Gollyngdod mawr!
Tuesday, August 7, 2012
apple newydd
Achos bod ein monitor gan Samsung yn eithaf hen (mae Mac Mini'n iawn,) penderfynodd y gŵr brynu iMac fel ein prif gyfrifiadur cartref. Mae'n wych i ddweud y lleiaf. Mae ganddo steil syml a sleek. Dw i ddim yn rhy hoff o track pad, ond efallai y bydda i'n mynd yn gyfarwydd efo fo. Peth arall hyfryd ydy bod ni wedi symud Mac Mini a'r monitor i ystafell arall i'r plant gael eu defnyddio. Mae'r drefn newydd yn gweithio'n braf; does dim rhaid i mi giwio i ddefnyddio'r cyfrifiadur; mae'r plant yn cael recordio audio blog mewn ystafell ddistaw.
Monday, August 6, 2012
sedd anghywir
Doedd gan y dyn meddw syniad pwy oedd yn eistedd wrth ei ochr pan daflodd o botel blastig yn y cae ras 100m. Fe allai'r botel fod wedi achosi trafferth ddifrifol pe bai hi wedi syrthio o flaen y rhedwyr. Gobeithio y bydd o neu unrhywun yn meddwl dwywaith cyn meiddio gwneud y fath beth tebyg yn y dyfodol. Hwrê i Edith Bosch beth bynnag!
Sunday, August 5, 2012
hen fflat
Saturday, August 4, 2012
mae thermae romae yma!
Dw i'n sgwennu'n eithaf hwyr heddiw oherwydd fy mod i wedi mynd i Faes Awyr Tulsa i gasglu'r gŵr. Mae o'n ôl wedi bod yn Japan, Corea a Hawaii am fis. Daeth o â'r saith llyfr a archebais gan Amazon.japan - y gyfres gyfan o Thermae Romae a dau arall gan yr un awdures! Dyma ddechrau darllen y rhif un; mae'r cyfuniad o'r ddau ddiwylliant yn ofnadwy o ddoniol! Clywais i fod hi'n cael syniad ar gyfer y rhain tra oedd hi'n smwddio. Archebais i gopi o'r rhif un yn Eidaleg hefyd. Edrycha' i ymlaen.
Friday, August 3, 2012
latte art
Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod yna holl fyd o latte art ym mhob man. Maen nhw'n edrych yn ofnadwy o gain. Wedi cael cip ar You Tube a dysgu'r gelf sydyn, dyma brofi un fy hun. Wrth gwrs bod gen i ddim teclyn iawn a fe wnes i ddefnyddio'n frother bach ni. Wel.... aeth y llefrith yn rhy ewynnog i gael effaith ddisgwyliedig. Roedd y coffi'n flasus iawn o leiaf.
Thursday, August 2, 2012
gwyliau'r haf
Er bod fy merch yn gwirioni ar sgrifennu storiâu, roedd hi'n rhy brysur efo ei gwaith ysgol i sgrifennu cymaint ag oedd hi'n hoffi ei wneud. Rŵan mae ganddi hi ddigon o amser yn ystod gwyliau'r haf cyn dechrau'r brifysgol (pan nad ydy hi'n gweithio yn y siop hufen iâ) i ddatblygu ei diddordebau. Byddai hi'n eistedd am oriau yn sgrifennu ei darn newydd.
Wednesday, August 1, 2012
gŵyl rasio ceffylau
Mae awdur Tokyobling wrthi'n adrodd gŵyl draddodiadol yng ngogledd Japan. Mae pobl mewn arfwisgoedd yn rasio ceffylau a gorymdeithio yn nerthol ac urddasol. Hyfryd gweld bod yr ŵyl o fath yn dal er gwaethaf trychineb y llynedd. Er hynny mae'n boeth! Druan o'r ceffylau sy'n gorfod rhedeg ras efo dynion mewn arfwisgoedd arnyn nhw ym mis Awst. Gobeithio na fyddan nhw'n llewygu fel y ceffylau truan yn Rhufain. Byddai'n syniad da i gynnal yr ŵyl yn y gwanwyn neu yn yr hydref.
Subscribe to:
Posts (Atom)