skyview
Dangosodd fy merch ryfeddod ar ei iPhone Touch newydd - application o'r enw SkyView. Mae'r sgrin fach yn dangos lle mae'r sêr, planedau a lloerennau ayyb ar y foment. Aethon ni i gyd allan neithiwr i weld y cytserau. Mae'n anodd gwybod beth ydy beth fel arfer ond mi fedrwn i adnabod yr Alarch yn syth efo SkyView. Roedden ni'n aros ar y dec am sbel yn edmygu'r cytserau. Dyfais anhygoel!
2 comments:
Rhyfedd o fyd ! Mi wnês innau ddefnyddio'r app 'Skyview' [am ddim]ar fy ipod touch i edrych am leoliad yr International Space Station y noson o'r blaen.
Yn gweithio yn dda iawn, ac fe welsom yr ISS yn gwibio drwy'r ffurfafen :)
Rhyfeddol a defnyddiol wir.
Post a Comment