mae o yma o'r diwedd
Cyrhaeddodd y manga hir disgwyliedig hwn (fedra i ddim ffeindio gair addas, nid cartŵn ydy manga Japaneaid) o siop yn Rhufain o'r diwedd. Wedi gorffen y gyfres o bedwar yn Japaneg a gwirioni arnyn nhw, roeddwn i'n edrych ymlaen yn fawr at y fersiwn Eidaleg. Fe wnaeth y cyfieithydd wneud y gwaith yn ardderchog. A dweud y gwir, defnyddiwyd Japaneg braidd yn ffurfiol yn y manga, dw i'n tybio, er mwyn creu argraff "Rhufeiniad hynafol." Mae'r Eidaleg yma'n ddigon syml; weithiau mae'n haws deall yr Eidaleg na Japaneg Yamazaki. Mae'n syniad da beth bynnag i ddarllen y ddau manga ochr yn ochr i ddysgu Eidaleg.
No comments:
Post a Comment