gwaith fy mam
Pan oedd hi'n 19 oed cafodd fy mam waith efo un o'r neuaddau gwledd/priodas, gwestai mwyaf mawreddog ac adnabyddus yn Tokyo, sef Meguro Gajoen. Roedden nhw'n cyflogi merched ifanc (a phert!) yn rheolaieh i dywys y gwesteion yn yr adeiladau efo coridorau cymhleth fel labrinth yn ogystal â gweini wrth y bwrdd. Roedd yr holl ferched yn byw ar y safle, a dysgwyd seremoni te, Ikebana, gwnïo, moesau a chwrteisi iddyn nhw. Treuliodd fy mam flynyddoedd hapus yno gan fod pawb yn glên iawn. Mae Gajoen yn dal yn y lle gwreiddiol er bod llawer o'r adeiladau wedi cael eu hadnewyddu.
No comments:
Post a Comment