Sunday, November 18, 2007

atgofion o gymru 9

Roedd 'na ryw 20 o bobl yn fy nosbarth i. Brenda o Ynys Môn oedd y tiwtor. Roedd hi'n ardderchog. Rôn i wrth fy modd yn cael dysgu mewn dosbarth am y tro cynta.

Roedd pawb yn glên ac mi ges i hwyl. Ond roedd y rhan fwya ohonyn nhw'n siarad Saesneg yn yr amser coffi ac yn y dosbarth hefyd weithiau. Roedd 'na lai fyth o gyfleoedd i siarad Cymraeg tu allan i'r ysgol haf hyd yn oed ym Mangor. Roedd yn ymddangos i mi bod Cymry Cymraeg yn amharod i siarad yr iaith â dysgwyr. Mi ddechreues i deimlo'n euog defnyddio fy Nghymraeg llai-na-rhugl.

Yna, digwyddodd rywbeth gododd fy nghalon.

2 comments:

neil wyn said...

Dwi'n edrych ymlaen at darlleb pennod nesaf dy hanes, a darllen am yr hyn nath codi dy galon

Emma Reese said...

Dw i'n mwynhau ac yn edrych ymlaen at sgwennu fy hanes yn fy mlog. Ac mae'n dda gen i wybod bod 'na bobl sy'n ei ddarllen hefyd.