Friday, November 23, 2007

cinio thanksgiving

Twrci drwg ydy o wedi'r cwbl. Mi naeth o fethu dadrewi mewn pryd ddoe. Roedd rhaid i ni oherio'r cinio tan heddiw. Bydd fy merch hyna a'i chariad yn dwad p'nawn ma. Felly fydd 'na 14 o bobl yn bwyta'r pryd o bwyd heno.

Gyda llaw, mi nes i bostio Uned 1 Cwrs Pellach at fy nghwtor bore ma. Rôn i wedi hen orffen wythnosau yn ôl oni bai am y papurau ddaeth echdoe o'r diwedd. Roedd Uned 1 braidd yn hawdd ond mi nes i fwynhau gwenud y gwaith. Roedd 'na gwestiynau i fynd efo Bywyd Blodwen Jones. Dw i'n gyfarwydd â'r nofel hon ond roedd 'na ryw ddeg tudalen ac roedd rhaid i mi feddwl i'w hateb. Mi ges i hwyl ac ymarfer sgwennu da iawn.

2 comments:

Corndolly said...

Doedd dim rhaid i ti wneud y holl waith am Blodwen efo Uned 1. Basai un dudalen yn ddigon efo bob gwers. Llawer o waith i'w wneud mewn un uned !! Mae'n ddrwg gen i am y twrci. Ron i'n meddwl y baset ti'n lwcus tasai o wedi dadrewi mewn amser. Mwynha dy bryd o fwyd heno. Pwy sy'n golchi'r llestri?

Emma Reese said...

Dôn i ddim yn gwybod! Rôn i'n meddwl bod 'na gymaint o dudalen!

Mi aeth y cinio'n dda a fwynheuodd pawb. Fi oedd olchi'r llestri efo cymorth y peiriant.