Thursday, November 8, 2007

profiad annifyr

Mi es i i Braums (siop hufen iâ a phethau eraill) bore ma i brynu bara a ffrwythau. Ar ôl cymryd braidd yn hir i ddewis orennau a grawnffrwythau a thorth o fara gwyn, es i â nhw i'r cownter. Yna sylwes i mai cerdyn y llyfrgell, dim y cerdyn credyd oedd gen i! Ac ro'n i heb bres parod. Roedd rhaid i mi ymddiheuro i'r hogan tu ôl y cownter a gadael y bwyd. Allan o'r siop yn gyflym es i.

2 comments:

Linda said...

Dwi'n meddwl mai'r profiad mwyaf annifyr ges i oedd cerdded allan o dy tafarn prysur [yng Nghymru ] heb dalu!Cyrraedd adref efo'n ffrindiau a sylweddoli hyn , wedyn y dair ohonom yn gorfod mynd yn ôl ac ymddiheuro.

Emma Reese said...

Dw i'n siwr bod nhw wedi gwerthfawrogi bod chi wedi mynd yn ôl i dalu.